“Gofynna i dy fyti olchi dy gefn”

Ym 1926 cyflwynwyd cronfa ar gyfer codi baddondy ar ben y pwll trwy Gronfa les y Glowyr.

Cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio baddonau pen pwll, c.1930 (D1100/1/2/6)

Byddai’r baddonau yn galluogi’r glowyr i adael y gwaith yn lân ac i wella bywydau eu teuluoedd.

Baddonau pen pwll cyntaf Cymru yn Nhreharris, c.1921 (DNCB/14/3/23/2)

Cyn dyddiau’r baddondy yn y pwll byddai’r glowyr yn teithio adref yn frwnt gan lwch glo. Yn aml yn wlyb o chwys a dŵr o’r pwll, roeddent mewn perygl o ddal niwmonia, broncitis neu’r gwynegon.

Glöwr yn cael bath yn ei gartref, c.1930 (DNCB/14/3/41/3)

Byddai’r gwragedd yn gweithio’n galed i lanhau’r llwch glo o’r cartref ac i baratoi bath i’r glowyr. Collodd cannoedd o blant eu bywydau am iddynt syrthio i ddŵr bath berwedig.

Glofa’r Cwm, cynllun Baddonau Pen Pwll, Awst 1953 (DNCB/1/4/13/14)

Mae cynlluniau’r baddonau pen pwll sydd wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg yn dangos fel y bu i fywydau’r glowyr a’u teuluoedd wella, gan arddangos cyfleusterau fel cawodydd, ffreuturau a chanolfannau cymorth cyntaf.

Baddonau Pen Pwll, pwll glo anhysbys, [c.1920] (DNCB/14/1/21)

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd