Llyfrau

Hughesovka: A Welsh Enterprise in Imperial Russia

gan Susan Edwards

Sefydlodd John Hughes, y diwydiannwr o Ferthyr Tudful, waith haearn yn Wcráin, wedi i Lywodraeth Ymerodrol Rwsia ei wahodd i wneud hynny. Mae’r llyfr treiddgar hwn yn adrodd hanes John Hughes, ei Gwmni Rwsia Newydd a’r dref a’r gymuned a dyfodd o gwmpas y gwaith haearn. 72 tudalen, 100 llun.

Pris: £1.00

Poor Relief in Merthyr Tydfil in Victorian Times

gan Tydfil Thomas

Mae’r llyfr hwn yn dangos sut roedd Deddf (ddiwygiedig) y Tlodion 1834 yn gweithredu yn Klondike Cymru, ac yn nhref ddiwydiannol Merthyr Tudful yn benodol. Mae llawer o luniau trawiadol ynddo ac mae’n siŵr o apelio at ddarllenwyr cyffredinol yn ogystal â haneswyr proffesiynol. 199 tudalen 83 llun.

Pris: £6.00

Nid yw pris yr eitemau yma yn cynnwys tal postio; danfonwch ebost neu ffoniwch Archifau Morgannwg i ofyn am bris llawn cyn archebu.

Prynu

Gallwch brynu’r llyfrau hyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  1. Anfon eich archeb a siec i: Archifdy Morgannwg, Clos Parc Morgannwg Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW.
  2. Dod i Archifdy Morgannwg eich hun

Gellir talu yn y dulliau canlynol:

  • Siec, mewn punnoedd gan fanc Prydeinig, yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’
  • Archeb Bost, yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’
  • Taliad ar-lein, ceir manylion ar gais

Yn anffodus, ni allwn dderbyn sieciau gan fanciau nad ydyn nhw’n rhai Prydeinig.

© Archifau Morgannwg 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd