Chwaraeai cerddoriaeth ran bwysig ym mywydau gweithwyr y lofa. Ymunodd llawer o ddynion â bandiau pres y lofa ac â chorau.

Côr Meibion Coegnant yn canu ‘Cân y Pyllau’, 1947 (DNCB/14/3/33/9)

Ystyriwyd cerddoriaeth a chanu fel gweithgareddau hamdden llesol, gan gadw gweithwyr allan o’r dafarn – a gwleidyddiaeth – a’u cadw nhw rhag mynd i drwbl.

Côr Meibion Glofa’r Parc, Ocean and National Magazine, 1930 (D1400/9/3/7)

Roedd bod yn aelod o fand neu gôr yn meithrin ymdeimlad o falchder yn eu glofa. Anogid cystadleuaeth iach rhwng glofeydd ac roedd y cystadlu rhwng glofeydd yn frwd dros ben.

[Band Pres Rhydaman], 31 Ion 1964 (DNCB/14/4/158/10/8)

Roedd aelodau band ac aelodau corau yn genhadon nid yn unig i’w gweithle ond i’w pentref neu eu tref.

Band Glofa Fernhill, cytundeb gyda Gabriel Collins am daliadau tuag at brynu corn tenor, 1922 (D1100/1/2/1)

Os oeddech yn dymuno bod mewn côr neu fand roedd gofyn cael ymrwymiad, a disgwylid i chi gyfrannu at gost prynu offerynnau a sgorau cerddorol allan o’ch cyflog.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd