Roedd niwmoconiosis (y niwmo neu glefyd y llwch) a silicosis yn afiechydon ar yr ysgyfaint a achoswyd gan lwch. Roedden nhw’n gyfrifol am beri anabledd ac am farwolaeth gynnar i lowyr.
Rhwng 1933 a 1984, gadawodd 17,000 o lowyr Cymru eu gwaith o dan ddaear yn sgil niwmoconiosis a silicosis.
Ym 1928 daeth hawl i iawndal silicosis i’r glowyr. Gwrthodwyd iawndal i nifer o lowyr gan mai nad hwn oedd yr afiechyd oedd ganddynt.
Arweiniodd ymchwiliad gan y Cyngor Ymchwil meddygol at Gynllun iawndal (Niwmoconiosis) y Diwydiant Glo ym 1943. Roedd hyn yn golygu y gellid talu iawndal ar gyfer y ddau afiechyd.
Ond nid llwch oedd yn gyfrifol am bob afiechyd yn y diwydiant glo. Roedd Nystagmus, afiechyd ar y llygad o ganlyniad i weithio mewn golau isel, wedi effeithio ar 199,831 o lowyr yn y DG rhwng 1908 a 1938.