Gwasanaeth Achub y Glowyr

Yn dilyn sawl trychineb lofaol yn ystod y 19eg ganrif, daeth galwadau i sefydlu Gwasanaeth Achub y Glowyr.

Erbyn 1913 roedd 10 o Orsafoedd Achub Glofeydd ym maes glo’r de.

Dyn yn gwisgo offer achub, [1950au-1970au] (DNCB/14/4/159/5/22)

Roedd yr achubwyr yn lowyr a oedd wedi eu hyfforddi yn arbennig. Roedden nhw’n adnabod y glofeydd ac yn gyfarwydd â gweithio dan ddaear.

Tystysgrif cwrs hyfforddi cyfarpar achub, 1920 (DNCB/15/10/3)

Roedden nhw wedi eu hyfforddi i ddefnyddio cyfarpar anadlu ac offer achub arbenigol ac i roi cymorth cyntaf. 

‘Trambiwlans’ yng Nglofa Newlands, 1947 (DNCB14/4/90/4)

Roedden nhw’n hyfforddi timau achub ym mhob glofa. Mae cofnodion Gorsaf Achub Dinas yn nodi …y dylai fod gan bob glofa dîm o bump o ddynion o leiaf. Byddent yn derbyn hyfforddiant fel tîm a phe deuai’r alwad argyfwng byddent yn gyfarwydd â’i gilydd.

Addasu offer yng Ngorsaf Achub Llwchwr, 1952 (DNCB/14/4/155/27)

Roedd y gwaith yn gorfforol a meddyliol heriol. Ystyriwyd yr Achubwyr hyn fel elite y diwydiant glo.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd