Ar gyfer gwasanaethau llywio lloeren neu fap rhyngrwyd, ein cod post yw CF11 8AW. Mae Clos Parc Morgannwg wedi’i leoli ychydig oddi ar Sloper Road.
Os gallwch weld Stadiwm newydd Dinas Caerdydd, dydych chi ddim yn bell oddi wrthon ni. Rydyn ni gyferbyn â Pharc Manwerthu Capital, dim ond mynediad i gerddwyr sydd rhwng ein safle a’r siopau.
Mae gwybodaeth am ddulliau trafnidiaeth ar Traveline Cymru, Ymholiadau National Rail, Trenau Arriva Cymru, Bws Caerdydd. Mae Newyddion Traffig a Chamerâu ar gael gan y BBC.
Teithio ar y Trên
O Gaerdydd Canolog, ewch ar y trên i orsaf Grangetown neu Barc Ninian. Mae Grangetown ar linell Penarth ac mae Parc Ninian ar linell City Link i gyfeiriad Radur. Mae trenau Radur yn gadael pob hanner awr, a threnau Grangetown yn gadael pob 8-10 munud.
Os ydych yn teithio o ogledd Caerdydd gallwch adael y trên yn Radur a mynd ar unrhyw drên sy’n teithio ar y City Link i Coryton. Mae’r rhain yn teithio drwy Barc Ninian ar eu ffordd i Gaerdydd Canolog. Mae trenau’r City Link yn rhedeg bob ryw hanner awr.
Teithio ar y Bws
O tu ôl Llyfrgell Ganolog Caerdydd ewch ar fysus gwasanaeth 1 neu 2. Mae’r rhain yn teithio o gylch y ddinas. Mae’n haws dal y Rhif 1 i’r swyddfa a’r rhif 2 oddi yno. Mae’r ddau wasanaeth hyn yn stopio yn y safle bws sydd agosaf at yr Archifau, ac yn mynd ddwywaith yr awr. Neu gallwch ddal rhifau 92, 93, 94 neu 95 sydd oll yn stopio ar waelod Sloper Road. Mae taith gerdded o ryw 10 munud oddi yno i’r Archifau.
Teithio yn y Car
Wrth ddod o ganol dinas Caerdydd, ewch ar yr A4161 ar hyd Heol y Castell ac yna Heol Ddwyreiniol y Bont-faen. Yna teithiwch ar Wellington Street, ewch i’r chwith yn yr ail allanfa ar y gyffordd pum cyfeiriad i Leckwith Road, sydd ag arwydd yn dangos Penarth a Dinas Powys. Ewch o dan ddwy bont reilffordd ac yna trowch i’r chwith i Sloper Road ar groesffordd a reolir gan oleuadau traffig. Ewch am chwarter milltir; wrth i chi basio Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd Clos Parc Morgannwg ar y dde i chi – mae arwydd twristiaeth brown wrth y mynediad i’r ffordd.
O’r tu allan i Gaerdydd, ewch i Gyffordd 33 ar yr M4 ac yna gadael y draffordd i ymuno â’r A4232. Ar ôl 6 milltir gadewch yr A4232 ar droad y B4267, sydd ag arwydd Stadiwm Dinas Caerdydd wrthi. Gadewch y gylchfan ar yr allanfa gyntaf, i Leckwith Road (B4267). Gyrrwch am hanner milltir, gan basio Parc Manwerthu Capital a Stadiwm Dinas Caerdydd ar y dde i chi. Wrth groesfan a reolir gan oleuadau traffig, yn union cyn pont reilffordd, trowch i’r dde i Sloper Road. Ewch am chwarter milltir; wrth i chi basio Stadiwm Dinas Caerdydd, bydd Clos Parc Morgannwg ar y dde i chi – mae arwydd twristiaeth brown wrth y mynediad i’r ffordd.
Mae gennym gyfleusterau parcio beiciau a cheir. Mae’r maes parcio yn cael i’w chloi pan mae’r swyddfa’n cau