Hwyluso Mynediad

Mae adeilad Archifau Morgannwg yn gwbl hygyrch i’r cyhoedd.

  • Mae drysau awtomatig ar flaen yr adeilad; lloriau gwastad ymhob ardal a lifftiau i bob llawr.
  • Mae toiledau hygyrch ar y llawr gwaelod yn ardal y dderbynfa.
  • Croesewir cŵn tywys, ond ni chaniateir unrhyw anifeiliaid eraill mewn unrhyw ran o’r adeilad.
  • Mae pob gwybodaeth brint ar gael mewn print bras ar gais.
  • Mae system dolen gyswllt ar gael ymhob ardal gyhoeddus.

Parcio

Mae’r maes parcio am ddim, drws nesaf i’r adeilad, yn agos at y drws blaen.  Mae 4 lle parcio ar gyfer ymwelwyr anabl.  Mae croeso i gerbydau ollwng a chasglu pobl o flaen yr adeilad.

Os oes gennych anghenion mynediad eraill, neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd