Medi 2025

Drysau Agored yn Archifau Morgannwg
27/09/2025
All Day
Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.
Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu awdurdodau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Mae’n casglu ac yn cadw dogfennau cyhoeddus o’r ardal yn dyddio o’r 12fed ganrif hyd heddiw ac yn sicrhau eu bod ar gael. Cedwir dros 12km o ddogfennau yn ystafelloedd sicr y cyfleuster pwrpasol.
Dewch draw i ddarganfod beth mae archifdy yn ei wneud, a sut mae’n gweithio!
Bydd cyfle i gwrdd ag aelodau o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg bydd ar gael i ateb eich cwestiynau hanes teulu. Bydd y Gymdeithas yn cyflwyno dwy sgwrs fer – does dim angen cadw lle ar gyfer y sgyrsiau, felly galwch mewn!
11yb – Defnyddio’r Cyfrifiad ar gyfer Hanes Teulu
1.30yp – Ymdopi a Rhwystrau yn Ymchwil Hanes Teulu
Bydd teithiau tu ôl i’r llen yn dechrau am 10yh, 11.30yh, 12.30yh a 2yh. ** Teithiau yn llawn erbyn hyn **
Cysylltwch â ni i archebu eich lle AM DDIM! – E-bost: glamro@cardiff.gov.uk
Ffôn: 029 2087 2299
Archwiliwch ddogfennau sy’n cofnodi cannoedd o flynyddoedd o hanes Morgannwg. A dysgwch fwy am y gwaith hynod ddiddorol sy’n digwydd yn ein stiwdio gadwraeth gydag arddangosiadau gan y tîm.
Bydd staff wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad ar sut i ddechrau a pharhau â’ch ymchwil, boed yn hanes lleol, hanes tŷ, hanes teuluol, prosiect ysgol neu brifysgol, neu unrhyw beth arall!
Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Leckwith, Caerdydd, CF11 8AW.
Mae cyfarwyddiadau ar gyrraedd yr Archifau, gan gynnwys map, ynghyd â manylion trafnidiaeth gyhoeddus a mannau parcio ar gael yn: https://glamarchives.gov.uk/ymweld-a-ni
Mae parcio am ddim ar gael ar y safle.
Mae adeilad Archifau Morgannwg yn gwbl hygyrch. Bydd y teithiau tywys yn symud o gwmpas adeilad. Mae’r llwybr yn addas i gadeiriau olwyn a bydd seddau i’w cael ym mhob man lle bydd y daith yn stopio. Os oes gennych unrhyw bryderon am fynediad, dywedwch wrth y staff wrth archebu.