Pris Glo: Marwolaeth ac Anafiadau

Roedd mwyngloddio am lo yn un o’r diwydiannau mwyaf anodd a pheryglus yng ngwledydd Prydain, gan ladd neu anafu’n barhaol yn ôl amcangyfrif hyd at chwarter miliwn o lowyr rhwng 1850 a 1950.

Detholiad allan o Gofrestr Damweiniau ac Iawndal, Pwll y Gorllewin, 1902-1904 (D1400/1/1/1)

Er bod trychinebau mawrion yn cipio’r sylw cyhoeddus, roedd anafiadau bob dydd yn llawer mwy cyffredin. Roedd perygl parhaus, gan gynnwys nenfydau yn dymchwel, effeithiau nwy a thramiau allan o reolaeth.

Triniaeth claf, Ystafell Cymorth Cyntaf, Glofa’r Gorllewin, 1951 (DNCB/14/4/133/4)

Gallai’r damweiniau hyn fod yn angheuol neu arwain at anableddau dros dro neu barhaus. Gallai glowyr anabl ond wedyn gwblhau ‘gwaith ysgafn’ ar yr wyneb megis pigo glo neu staffio yr ystafelloedd cyfarpar.

Cytundeb i adael i lowyr fynychu angladdau achosion angheuol, 1904 (D1411/1/3)

Mae cofrestri damweiniau ac iawndal yng nghasgliadau Archifau Morgannwg yn cofnodi manylion sut y digwyddodd y damweiniau, yr anafiadau a ddioddefwyd ac unrhyw iawndal a dderbyniwyd.

 

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd