Ar 21 Hydref 1966, lladdwyd 144, 116 ohonyn nhw’n blant pan ddymchwelodd tip o wastraff glo ar bentref Aberfan.

Adroddiad y Tribiwnlys Penodwyd i Ymchwilio i’r Trychineb yn Aberfan ar 21 Hyd 1966 (DNCB/4/1/20)

Ar 26 hydref 1966, penododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Dribiwnlys i ymchwilio i achosion ac amgylchiadau y drychineb yn Aberfan. Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad fod “y bai am y drychineb ar ysgwyddau’r Bwrdd Glo Cenedlaethol”.

Detholiad o’r Trawsgrifiad o’r Canolfan Rheoli Radio, Glofa Ynysowen, 1966-1967

Mae casgliad y Bwrdd Glo yn cynnwys traws ysgrifau o’r 76 diwrnod y bu’r Tribiwnlys wrthi, datganiadau tystion a chopïau i dystiolaeth a roddwyd ger bron y tribiwnlys fel adroddiadau tywydd, gohebiaeth a chynlluniau.

Detholiad o’r Rhestr o Dipiau ger Adeiladau yn ymwneud a Thip Albion, Tach 1967 (DNCB/4/1/19/2)

Ar argymhelliad y tribiwnlys, crynhowyd gwybodaeth am holl dipiau gwastraff yr NCB am y tro cyntaf. Mae papurau yn y casgliad yn dangos gwaith pwyllgor diogelwch y tip.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd