Amdanam ni

Croeso i Archifau Morgannwg

Rydyn ni’n casglu cofnodion sy’n ymwneud â hanes Morgannwg a’i phobl. Gall y cofnodion hyn amrywio o:

  • papur,
  • cynlluniau,
  • ffotograffau,
  • memrwn,
  • dyddiaduron personol, a
  • chofnodion cynghorau.

Mae rhagor o fanylion yn ein polisi casglu.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn dod o hyd i gofnodion sydd ar fin cael eu dinistrio neu’n sy’n dirywio, er mwyn eu cadw i genedlaethau’r dyfodol.

Catalogio

Rydyn ni’n catalogio cofnodion er mwyn i bobl ddod o hyd i ddeunydd a allai fod o ddiddordeb iddynt.
I gael rhagor o wybodaeth ar ein gwaith catalogio ewch i ‘chwilio’r catalog

Cadw a gwarchod

Rydyn ni’n cadw a gwarchod cofnodion, ac yn sicrhau bod eitemau sy’n cael eu rhoi, eu adneuo neu eu trosglwyddo i’r Archifau yn cael eu cadw yn yr amgylchedd gorau bosibl ac wedi eu pecynnu’n addas.

I gael rhagor o fanylion ewch i’n gwasanaethau gwarchod.

Sicrhau bod cofnodion ar gael

Gall y cyhoedd ddod o hyd i gofnodion yn ein hystafell chwilio. Gwelwch ein oriau agor a manylion am ein gwasanaeth

Cynnig cyngor

Gallwn eich cynghori ar ddefnyddio cofnodion, er mwyn i chi fanteisio’n llawn ar eich amser yma. Cael cyngor neu holi cwestiwn.

Croesawu grwpiau ar ymweliad

Rydyn ni’n estyn croeso i grwpiau fel:

  • cymdeithasau lleol,
  • dosbarthiadau nos,
  • grwpiau o ddisgyblion ysgol,
  • myfyrwyr ac athrawon, neu
  • staff awdurdodau lleol.

Mae gwybodaeth am drefnu ymweliadau o’r fath ar ein dalennau ymweliadau grŵp ac addysg.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd