Cyn gwladoli ym 1947, rheolwyd diwydiant glo de Cymru gan nifer wahanol o berchnogion a chwmnïau glo.

David Davies, sefydlydd Glofa’r Ocean yn ymweld â Glofa’r Deep Navigation, c.1910 (DNCB/14/1/19)

Yn hwyr yn y 19eg ganrif, gobaith llawer o bobol oedd gwneud eu ffortiwn trwy glo. Ceir cofnodion rhai o’r cwmnïau yma, gan gynnwys dau o’r fwyaf yn ne Cymru, Powell Duffryn a Ocean Coal, yn Archifau Morgannwg.

Detholiad o Adroddiad gan Bwyllgor Cynnyrch Glofa Ogilvie, 1945 (DPD/1/8/69)

Mae adroddiadau blynyddol, llyfrau costau a llyfrau cyflog yn olrhain elw a cholled y cwmnïoedd. Mae llythyron swyddogion a rheolwyr glofeydd yn cynnig cipolwg ar drefn gwaith dyddiol pwll glo.

Detholiad o nodiadau William Jenkins ar ei ymweliad i lofeydd yn Wlad Belg a’r Almaen, 1904 (D1400/3/4/1)

Mae nodiadau ymchwil, fel y rhai sy’n cofnodi ymweliad a glofeydd yn Wlad Belg a’r Almaen ym 1904 gan Rheolwr-Gyfarwyddwr Ocean Coal, yn dangos sut oedd cwmnïau yn gweithio i wella eu cyfleusterau a’u cynnyrch.

Swyddogion Merthyr Vale, [c1910] (DNCB/14/1/41)

 

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd