Edrych ar ôl eich archifau eich hunain
Oes gennych chi gasgliad o hen ddogfennau neu ffotograffau teuluol gartref?
Cyngor
Mae ein staff cadwraeth ar gael i’ch cynghori ar sut i storio’r dogfennau hyn a gofalu amdanynt. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost neu’r post, neu dros y ffôn, a gallwn drefnu ymgynghoriad os oes angen.
Mae rywfaint o wybodaeth a chyfarwyddyd hefyd ar gael yn ein taflen gwarchod
Prynu deunyddiau storio a phecynnu
Mae storio deunyddiau’n briodol yn rhan bwysig o’u cadw i’r dyfodol. Mae deunyddiau pecynnu sydd heb asid ynddynt yn gwneud i bethau ddirywio’n arafach. Mae deunyddiau pecynnu o ansawdd archifol yn gallu bod yn ddrud. Mae Archifau Morgannwg yn gwerthu’r eitemau hyn. Am restr gyflawn o’r hyn sydd ar gael, a’u prisiau, dilynywch y linc yma.