Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau Tywyll, Hen Wythiennau

Pen pwll â baner yr NCB, Glofa Nantgarw, 1952 (DNCB/14/4/87/70)

Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau Tywyll, Hen Wythiennau

Derbyniodd Archifau Morgannwg gyllid gan y Wellcome Trust i gatalogio eu cofnodion o’r diwydiant glo yn ne Cymru.

Cefnogwyd ein harddangosfa ‘Glamorgan’s Blood’ gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Lansiwyd yr arddangosfa yn Hydref 2019 ac roedd ar gael i’w weld yn Archifau Morgannwg tan ddiwedd y flwyddyn.

 

Roedd disgwyl i’r arddangosfa teithio i leoliadau ar draws de Cymru yn ystod 2020. O ganlyniad i’r pandemig Covid-19 bu’n rhaid i ni ddod a’r daith i ben, dim ond ychydig fisoedd ar ôl dechrau.  Mae’r baneri nawr wedi eu cadw nes bod modd i ni ail-gychwyn ar y daith.

 

Yn y cyfamser, rydym wedi ychwanegu cynnwys yr arddangosfa i’n gwefan fel bod modd ei weld a’i fwynhau o adref.

Mae teitl ein project yn dod o gerdd Mervyn Peake, Rhondda Valley, yn disgrifio cloddio am lo fel y gwaed roes fywyd i’r cymoedd.

Here, are the stiffening hills, here, the rich cargo

Congealed in the Dark Arteries,

Old veins

That hold Glamorgan’s blood.

The midnight miner in the secret seams,

Limb, life, and bread.

Mervyn Peake, Rhondda Valley

Erbyn 1913 roedd maes glo de Cymru gyda’r meysydd mwyaf yn y byd. Ym 1947 gwladolwyd y diwydiant ac fe grëwyd y Bwrdd Glo Cenedlaethol.

Arweiniodd twf cyflym y diwydiant glo at ddatblygiad cymdeithas cwbl newydd yn ne Cymru, gyda’r canolbwynt ar y lofa leol.

Maes Glo De Cymru, c.1923 (DCOMC/29/6)

Mae’r casgliadau glo yn Archifau Morgannwg yn cofnodi datblygiad, newid a dirywiad diwydiant a uniaethir â de Cymru, gan olrhain ei effaith ar fywydau ac iechyd y glowyr a’r gymuned lofaol ehangach.

Glofa Caerau, 1952 (DNCB/14/4/24/5)

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd