Profiad Gwaith

Nid yw’n bosib i ni gynnig lleoliadau gwirfoddoli a phrofiad gwaith newydd ar hyn o bryd.  Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i’r sefyllfa newid.

Myfyrwyr a disgyblion ysgol sydd fel arfer yn dod atom ar brofiad gwaith. Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle unigryw i chi i weld sut beth yw gyrfa Archifo a Chadw Archifau.

Rydyn ni’n ceisio gwneud y profiad yn un amrywiol, yn cynnwys gwaith ar:

  • Glanhau a phecynnu cofnodion,
  • rhestru casgliadau newydd,
  • digideiddio,
  • gweithio ar ein catalog electronig, ac
  • ateb ymholiadau o bell.

Mae aelod staff yn goruchwylio’r gwaith hwn.

.

Mae’r cyfleoedd a gynigir yn ateb gofynion FARMER – Fforwm Addysg ac Ymchwil Archifau a Rheoli Cofnodion. Mae hyn yn arbennig o werthfawr i bobl sy’n chwilio am brofiad gwaith cyn gwneud cais am le ar gwrs ôl-radd ar reoli archifau.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i ddod yma ar brofiad gwaith.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen ein Polisi Gwirfoddoli a bwrw golwg dros ein Ffurflen Gais am Brofiad Gwaith a Chyfleoedd Gwirfoddoli

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd