Posteri

Rheolau Tloty Llantrisant 1784

Roedd y tloty yn rhan bwysig o’n cymunedau mor hwyr â chanol yr ugeinfed ganrif hyd yn oed a diolch i waith awduron fel Charles Dickens fe gydiodd delweddau o’r tloty yn y dychymyg cyhoeddus. Drwy’r rheolau hyn gallwn weld realiti bywyd y sawl oedd yn byw yn y sefydliadau hyn.
(45cms X 60cms; 17½” X 23½”)

Pris: £1.00

Rheolau Ysgol Genedlaethol Llanilltud Fawr 1831

Am wybod mwy am yr ystafell dosbarth yn Oes Fictoria? Dyma’r poster i chi.
(41cms X 63cms; 16¼” X 25″)

Pris: £1.00

Trenau Great Western 1837-1892

Delfrydol ar gyfer pawb sy’n ymddiddori mewn trenau neu hanes diwydiannol. Wrth edrych ar yr amryw gynlluniau, gwelwn mor brydferth yr oedden nhw mewn gwirionedd.
(70cms X 50cms; 27½” X 19½”)

Pris: £1.00

Ymfudo i America a Chanada 1875

Wedi ei gymryd o hysbyseb gan y South Wales Steam Company, mae’r poster hwn yn rhoi blas ar yr ymfudo ar draws yr Iwerydd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
(42cms X 61cms; 16½” X 24″)

Pris: £1.00

Cyfarfod cyhoeddus y Bont-faen 1886

Mae’r poster hwn yn coffau’r cyfarfod a gynhaliwyd i alw am siarter ymgorffori bwrdeistref y Bont-faen.
(41½cms X 59cms; 16¼” X 23½”)

Pris: £1.00

Ynys y Barri ar Werth 1877

Pwy sydd angen mynd ar wyliau pan fo ganddo ei gyrchfan gwyliau ei hun? Mae’r poster hwn yn ceisio’n hargyhoeddi bod gwerth  buddsoddi yn ‘harbwr naturiol’, ‘bae tywod hyfryd’ a ‘gwesty modern penigamp’ Ynys y Barri.
(38cms X 55cms; 14¾” X 21½”)

Pris: £1.00

Siart Coeden Teulu

I’r ymchwilwyr hynny sydd wedi ymchwilio’n gymharol bell, neu i ddechreuwyr sy’n chwilio am ysbrydoliaeth, dyma boster A0 ardderchog. Mae’n eich galluogi chi i ddilyn eich cangen chi o’r teulu ac yn arddangos y wybodaeth yn ddeniadol.
(84.5cms X 121cms; 33½” X 48½”)

Pris: £1.00

Nid yw pris yr eitemau yma yn cynnwys tal postio; danfonwch ebost neu ffoniwch Archifau Morgannwg i ofyn am bris llawn cyn archebu.

Prynu

Gallwch brynu’r llyfrau hyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  1. Anfon eich archeb a siec i: Archifdy Morgannwg, Clos Parc Morgannwg Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW.
  2. Dod i Archifdy Morgannwg eich hun

Gellir talu yn y dulliau canlynol:

  • Siec, mewn punnoedd gan fanc Prydeinig, yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’
  • Archeb Bost, yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’
  • Taliad ar-lein, ceir manylion ar gais

Yn anffodus, ni allwn dderbyn sieciau gan fanciau nad ydyn nhw’n rhai Prydeinig.

© Archifau Morgannwg 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd