Yn ystod yr ugeinfed ganrif, ymladdodd y glowyr dros eu hawl i ennill cyflog byw. Defnyddiwyd streiciau fel bod eu llais yn cael ei glywed, ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus bob tro.
Yn ystod Terfysg Tonypandy, 1910-1911, gwelwyd glowyr yn ymladd dros gyflog teg ym Mhyllau Gombein y Cambrian. Trechwyd y streic ond arweiniodd y frwydr at sefydlu’r galw am isafswm cyflog ym 1912.
Ym 1926, siaradodd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr allan yn erbyn cynigion i leihau cyflogau ac ymestyn y diwrnod gwaith.
Galwyd streic genedlaethol ym mis Mai 1926 i gefnogi’r glowyr. Wedi 9 diwrnod, chwalodd y Streic Gyffredinol ond parhaodd y glowyr â’u hanghydfod. Daeth y streic i ben ac fe drechwyd y glowyr ac fe ddychwelon nhw i’w gwaith ym mis Rhagfyr 1926 ar gyflogau sylweddol is.