Costau Storio
Cyfrifir y costau fesul silff (hyd at 1 fetr) ar £15.00 y flwyddyn.
Mae gan stac safonol 7 silff. Caniateir addasiadau ond codir isafswm tâl o £87.50 fesul stac. Os yw’r stac yn dal mwy na 7 silff, cyfrifir y gost fesul silff.
Ffi weinyddol untro (sefydlu): £50.00
Costau staff am unrhyw waith sy’n ofynnol wrth gasglu, gan gynnwys adalw – paraproffesiynol (yr awr): £25.00
Costau staff am unrhyw waith sy’n ofynnol wrth gasglu, gan gynnwys adalw – proffesiynol (yr awr): £45.00
Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar gyfnod rhentu o 1 mlynedd ac cau allan TAW.
Gwaith Paratoadol
- Cytundeb. Gofynnir i gleientiaid lofnodi cytundeb safonol.
- Gosod silffoedd. Gellir gwneud addasiadau i’r silffoedd am ffi ychwanegol.
- Ffotograffau. Caiff cofnod ffotograffig ei wneud o’r eitemau ar y silffoedd pan gânt eu derbyn.
- Pecynnu. Mae’n bosibl y gofynnir i gleientiaid drefnu bod yr eitemau yn cael eu pecynnu cyn eu storio. Gall yr Archifau wneud hyn am ffi.
- Cynllun Paratoi at Argyfwng. Bydd angen i fanylion cyswllt yr unigolion a enwir yn y sefydliad rhentu gael eu hychwanegu at y Cynllun.
Gwasanaethau Ychwanegol; taliadau i’w trafod
- Casglu. Rhaid rhoi gwybod i ni a rhaid i gleientiaid gael eu tywys gan staff.
- Gofod gweithio. Gellir sicrhau bod ardaloedd ar gael ar gyfer gwaith ymgynghori, cadwraeth a chatalogio deunyddiau sy’n cael eu storio gan gleientiaid.
- Gall staff yr Archifau wneud gwaith pecynnu, ymchwil, cadwraeth a chatalogio .
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth neu i drafod opsiynau a chostau..