Canllaw Ymchwil ar gyfer Hanes Lleiafrifoedd Ethnig ym Morgannwg
Rydym yn bwriadu llunio canllaw ymchwil ar gyfer hanes Lleiafrifoedd Ethnig ym Morgannwg. Bydd y canllaw yn amlinellu adnoddau sydd ar gael i ymchwilwyr, yn darparu enghreifftiau o gofnodion, yn cynnwys geirfa o dermau, ac yn cyfeirio at gasgliadau perthnasol a gedwir mewn mannau eraill. Bydd cofnodion swyddogol a sefydliadol, fel cofnodion yr heddlu, llysoedd ac ysbytai, yn cael eu cynnwys, ynghyd â chofnodion o sefydliadau cymunedol a deunydd archifol personol.
Mae arbenigwyr mewn methodolegau ymchwil a hanes Lleiafrifoedd Ethnig wedi cymryd rhan i ddylunio a chynghori ar y prosiect. Mae swyddog prosiect yn goruchwylio’r prosiect, recriwtio, hyfforddi a goruchwylio gwirfoddolwyr ac ymchwilwyr cyflogedig. Ar hyn o bryd, prin yw’r bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n ymchwilio i hanes ethnig amrywiol yng Nghymru. Er mwyn annog myfyrwyr ac eraill i ymgysylltu â’r maes ymchwil hwn, rydym yn bwriadu cyflogi nifer o ymchwilwyr i archwilio casgliadau penodol.
Bydd y canllaw ar gael yn ddwyieithog ar wefan Archifau Morgannwg. Bydd cyhoeddi digidol yn sicrhau bod y canllaw yn parhau i fod yn gyfredol a’i bod yn hawdd ymateb i adborth, ac yn helpu dosbarthiad trwy gylchredeg ar e-bost.