Fel ardaloedd diwydiannol eraill yng Ngwledydd Prydain ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd cymoedd de Cymru yn hurt bost dros chwaraeon swyddogol.
Mae adroddiadau papurau newydd fel Ras Hewl flynyddol gyntaf y Glowyr, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym 1926, yn dangos fod ysbryd brawdgarwch a chwarae teg yng nghymunedau glo y de.
Erbyn 1930, disgrifiwyd y mwynderau lles a hamdden ym maes glo de Cymru fel gyda’r mwyaf blaengar yn y deyrnas. Roedd cyfleusterau ar gyfer bowls, tennis, croquet, coits, rygbi a phêl-droed mewn llawer i ardal.
Roedd cylchgronau glofeydd yn adrodd am gystadlaethau chwaraeon, gyda ffotograffau, erthyglau a rhestr gemau ar gyfer criced, bowls a rygbi i ddynion. Roedd merched wedi eu cynrychioli yn y cylchgronau hefyd, wrth i dennis i ferched gael ei gynnwys.