Addysg

Mae Archifau Morgannwg yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i athrawon, ysgolion, colegau a phrifysgolion yn yr awdurdodau lleol yr ydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyngor ar sut i gadw cofnodion.

Ymweliadau Ysgolion a Gweithdai

Mae Archifau Morgannwg yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ysgol o bob oedran. Mae ymweliadau ysgol am ddim ac yn parhau am hyd at ddwy awr.  Gallwn croesawi 30 plentyn mewn un ymweliad.

Gallwn deilwra gweithdai yma’n yr Archifau i’ch milltir sgwâr chi. Mae’r gweithdai hefyd ar gael i’w lawr-lwytho, ynghyd a nodiadau athrawon, ar gyfer defnydd yn y dosbarth.

Gwasanaethau ar gyfer colegau a phrifysgolion

Ymweliadau gan fyfyrwyr colegau a phrifysgolion

Mae croeso i diwtoriaid drefnu ymweliadau gan grwpiau o fyfyrwyr.  Mae croeso i israddedigion ac uwchraddedigion.   Gallwn roi arweiniad ar sut i ddefnyddio’r Archifau, a chyflwyniad i’r adnoddau sydd gennym gan ganolbwyntio ar y rhai sy’n berthnasol i faes astudio’r myfyrwyr.   Mae’r sesiynau hyn yn gallu bod yn arbennig o ddefnyddiol pan drefnir nhw ar gychwyn tymor neu cyn i fyfyrwyr gychwyn ymchwilio ar gyfer eu traethodau hir.

Ni chodir tâl am ymweliadau gan golegau a phrifysgolion

Edrych ar ôl eich cofnodion

Mae cofnodion llawer o ysgolion Morgannwg yn Archifau Morgannwg.  Mae’r rhain yn cynnwys llyfrau log, cofrestrau mynediad, hanes ysgolion, ffotograffau a mwy.

Yr ysgolion sy’n rhoi cofnodion i ni sy’n berchen ar yr eitemau hyn o hyd.   Gellir eu gweld yn yr ystafell chwilio lle gall athrawon eu defnyddio i greu adnoddau neu arddangosfeydd ar gyfer yr ystafell ddosbarth i ddathlu achlysuron arbennig yn yr ysgol.  Os byddwch yn dod â grŵp o ddisgyblion i ymweld â’r Archifau, defnyddir y cofnodion ysgol i roi cyd-destun lleol i’ch gweithdy dewisol.

Drwy drosglwyddo cofnodion i’r Archifau, mae ysgolion yn sicrhau y gofelir amdanynt yn briodol.  Byddan nhw’n cael eu cadw yn yr ystafelloedd cadarn gyda’u systemau gwrth-dân, a’u pecynnu mewn bocsys a phlygellau gwarchodol i atal dirywiad a sicrhau eu bod ar gael i genedlaethau’r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r dudalen Trosglwyddo Cofnodion.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd