A oes eitemau gennych y gallem eu hychwanegu i gasgliadau’r maes glo yn Archifau Morgannwg?
Fel rhan o broject Gwaed Morgannwg, mae Archifau Morgannwg wedi catalogio cofnodion y Bwrdd Glo a’r cwmnïau glo a fodolai cyn gwladoli’r diwydiant.
Ond dim ond rhan o’r stori yw hynny. Rydym am adrodd eich hanes chi hefyd – hanes y glowyr a’u teuluoedd, y bobl a weithiai yn y diwydiant glo ac a oedd yn byw yn y cymunedau glofaol.
Os oes deunyddiau gennych y carech eu hychwanegu i’n casgliad – eitemau fel ffotograffau, cynlluniau, cofnodion cyfarfodydd, pamffledi a thaflenni, cylchlythyron – cysylltwch â ni yn Archifau Morgannwg.