Gwasanaethau Cadwraeth

Gall Archifdy Morgannwg rhannu ei arbenigedd mewn cadwraeth gyda sefydliadau allanol sydd yn dymuno cael cymorth gyda’r gwaith o gadw neu warchod eitemau.

Gall ein staff gynnal arolygon cadw i hwyluso cynlluniau gwarchod a chreu rhaglenni effeithiol a sicrhau bod sefydliadau yn defnyddio eu cyllideb cadwraeth yn y ffordd fwyaf effeithlon bosibl.

Mae’r stiwdio warchod hefyd yn gwneud gwaith i aelodau o’r cyhoedd.

Costau
Cadwraethwr £45.00 yr awr
Cadwraethwr, Ymweliad Undydd £270.00 + chostau teithio
Cadwraethwr, Ymweliad Hanner Diwrnod £135.00 + chostau teithio
Cynorthwy-ydd Cadwedigaeth £25.00 yr awr
Cynorthwy-ydd Cadwedigaeth, Ymweliad Undydd £150.00 + chostau teithio
Cynorthwy-ydd Cadwedigaeth, Ymweliad Hanner Diwrnod £75.00 + chostau teithio

Gwaith mainc

Mae ein cadwraethwyr wedi eu hyfforddi mewn gwaith trwsio a chadw llyfrau, mapiau, cynlluniau, posteri, papur o bob math, memrwn, seliau cŵyr a rhai triniaethau i ffotograffau. Ni allwn ymgymryd â gwaith ar baentiadau, ceramig, metel, pren neu decstilau ond gallwn gynnig enwau arbenigwyr i chi.

Glanhau a Phecynnu

Gall dogfennau a deunyddiau archifol fynd yn frwnt dros y blynyddoedd, gall pryfed fyw ynddynt neu gallant ddechrau llwydo.  Gellir eu glanhau’n ddiogel gydag offer arbenigol.  Mae gan staff Archifdy Morgannwg brofiad helaeth o gael gwared ar bryfed a glanhau a phecynnu dogfennau. Gallwn lanhau a phecynnu llyfrau, mapiau, cynlluniau, posteri, ffotograffau, dogfennau memrwn, seliau cŵyr a negatifau polyester.

Arolygon, Adroddiadau a Hyfforddiant

Mae’r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer unigolion, cymdeithasau a sefydliadau sy’n berchen ar gasgliadau. Byddent hefyd o fudd i swyddfeydd archifo sy’n gweithio tuag at y Safon Gwasanaeth Archifo Achrededig ac i sefydliadau sy’n ymgeisio am grantiau.  Gallwn helpu gyda’r canlynol:

  • Asesu adeiladau a monitro a dadansoddi amgylchiadau amgylcheddol
  • Datblygu polisïau gofalu am gasgliadau, llunio gweithdrefnau a chynlluniau gweithredu, gan gynnwys paratoi at argyfwng.
  • Paratoi adroddiadau cyflwr a chynlluniau triniaeth at gyfer casgliadau penodol neu eitemau unigol.
  • Ymweld â safleoedd i roi cyngor a hyfforddiant gyda’r canlynol:
    • Cynnal a chadw, gan gynnwys rheoli plâu a monitro’r amgylchedd.
    • Nodi casgliadau sydd wedi eu niweidio a ffyrdd o atal niwed.
    • Cofnodi asesiadau a thriniaethau ar CALM.
    • Trin a thrafod dogfennu, glanhau a phecynnu.
    • Rôl gwirfoddolwyr wrth ofalu am gasgliadau.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd