“Cogyn bach yn y peiriant mwyngloddio mawr”

Gweithiai glowyr yn galed am eu cyflog wrth i’r cwmnïau glo a thirberchnogion ffynnu.

Dau löwr yn halio glo, C20 (DNCB/14/1/29)

Roedd glowyr fel arfer yn weithwyr ar dasg (caent eu talu yn ôl faint o waith bydden nhw’n ei wneud). Mae rhestrau prisiau yn dangos cyfraddau tâl y glowyr ar gyfer amrywiol dasgau. Cyflwynwyd isafswm cyflog i lowyr yn 1912.

Detholiad o restr brisoedd yn dangos cyfraddau tâl gweithwyr yng nglofeydd Fernhill a North Dunraven, Mai 1910 (D1100/1/5/2/6)

Cadwai’r cwmnïau glo lygaid barcud ar gostau cynhyrchu, gan gofnodi faint o lo a gloddiwyd a faint oedd y gost iddyn nhw. Mae llyfrau allbwn yn rhoi’r rhesymau dros newidiadau i lefelau cynhyrchiant, megis yr amser a gollwyd ar adeg o streic.

Detholiad o grynodebau o gost glo, 1900-1905 (D1400/2/5/1)

Mae llyfrau breindal a ffordd-fraint yn dangos bod tirberchnogion yn derbyn arian gan gwmnïau glo am gael defnyddio’u tir a’r mwynau a weithiwyd oddi tanno.

Detholiad o Gyfrif Breindaliadau a Ffordd-fraint (D1400/2/6)

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd