Ymweliadau Grwp

Mae staff bob tro’n fodlon cynnal sesiynau ar ‘sut mae dechrau’ ar gyfer grwpiau sy’n ymweld yma yn yr Archifau. Bydd cynnwys yr ymweliad wedi ei deilwra er mwyn ateb eich gofynion, ond gall gynnwys:

 

  • cyflwyniad i weithdrefnau Archifau Morgannwg
  • cyngor ar ddefnyddio ein catalogau i ddarganfod yr hyn rydych yn chwilio amdano
  • taith ‘pob ardal’ o’r adeilad, yn cynnwys cadwraeth a gwneud blychau
  • gwybodaeth ar sut i drin cofnodion gwreiddiol, a sut i ofalu am unrhyw ddeunydd archif eich hun sydd gennych gartref o bosibl
  • arddangos dogfennau sy’n berthnasol i’ch lle neu destun diddordeb
  • cyfle i holi cwestiynau a chael cyngor.

 

Rydym wedi derbyn ymweliadau gan ystod eang o grwpiau yn cynnwys pobl â diddordeb mewn rheilffyrdd, ysgolheigion y cyfnod canol oesol, artistiaid a haneswyr teulu. Felly, os ydych yn swyddog cymdeithas leol, tiwtor dosbarth hanes lleol neu hanes teulu yn ardal Morgannwg, cysylltwch â ni er mwyn archebu taith.

Pa mor hir yw taith fel arfer?

Fel arfer mae teithiau’n para dwy awr.

 

Oes cost?

Mae teithiau grŵp am ddim yn ystod oriau gwaith. Mae cost taith y tu allan i oriau gwaith yn £30 yr awr.

Taith rithwir o amgylch Archifau Morgannwg

Yn Archifau Morgannwg mae bob amser yn bleser gennym groesawu’r cyhoedd i edrych o amgylch ein hadeilad arbennig. Gan nad ydym yn gallu cynnal teithiau ar hyn o bryd, rydym wedi creu taith rithwir i roi cipolwg bach i chi ar yr Archifau y tu ôl i’r llenni. Gallwch ddod o hyd iddo yma.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd