Mapiau

Cynllun John Speed o Gaerdydd 1610

Mae’r map lliw llawn hwn yn dangos adeiladau unigol, yn cynnwys y castell, neuadd y dref, eglwysi a phriordai, ynghyd â hen waliau a chlwydi ac enwau strydoedd. Ffacsimili yw’r cynllun o ‘Theatre of Great Britain’ Speed, atlas o fapiau sir a gyhoeddwyd ym 1611.
(38cms X 28½cms; 15″ X 11¼”)

Pris: £2.00

Map Ffordd Rhuban o Forgannwg 1675

Wedi ei gynhyrchu gan John Ogilby, mae’r map hyfryd hwn yn dangos rhan Morgannwg o’r heol o Lundain i Dyddewi, o afon Rhymni i Afon Llwchwr. Ychwanegiad diweddar yw’r lliwiau.
(43cms X 42cms; 16¾” X 16½”)

Pris: £2.00

Caerdydd yn yr 1830au hwyr

Wedi ei gynhyrchu gan John Wood, mae’r map du a gwyn hwn yn adlewyrchiad gwych o ddatblygiad Caerdydd.
(46½cms X 72cms; 18″ X 28″)

Pris: £2.00

Caerdydd a Phenarth 1869

Mae’r map hwn gan T. Waring yn dangos Caerdydd, Penarth, y Rhath, Treganna a Llandaf, ac mae’n dangos dociau, rheilffyrdd a chamlesi.
(64cms X 81cms; 25″ X 32″)

Pris: £2.00

Caerdydd 1851

Wedi ei lunio’n wreiddiol gan Yr Arolwg Ordnans yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd, byddai’r map prydferth hwn yn edrych yn wych ar y wal, neu fe ellir ei ddefnyddio wrth ddysgu.
(58cms X 49cms; 22¾” X 19½”)

Pris: £3.50

  • Watermarked Merthyr Tydfil - North - in 1898
  • Watermarked Merthyr Tydfil - South - in 1898

Merthyr Tydfil 1898, Gogledd a De

Casgliad o ddau fap du a gwyn gwych, wedi eu cynhyrchu gan Arolwg Ordnans 1898. Maen nhw’n dangos yr ardal mewn manylder eithriadol. Mae map y gogledd yn dangos tirnodau fel Parc Penydarren ac mae map y de yn dangos safleoedd fel y Gwaith Nwy a’r llu o draciau trên oedd yn arwain at Orsaf Drên Ganolog Merthyr. (72cms X 51½cms; 28¼”X 20¼”)

Pris: Gellir prynu’r mapiau hyn fel pâr am £3.00 neu ar wahân am £2.00 yr un.

  • South Wales Coalfield
  • South Wales Coalfield

Mapiau Mae Glo De Cymru

Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Gwmni Ystadegau Busnes Caerdydd ym 1923 a 1927.  Maen nhw’n fanwl iawn ac mewn lliw. Maen nhw’n dangos derbyniadau mwynau haenau stêm a bitwminaidd, nodweddion glo caled, rheilffyrdd yr ardal a’r porthladdoedd.
(59cms X 42cms; 23½” X 16½”)

Price: Gellir prynu’r mapiau hyn gyda’i gilydd am  £10.00 neu ar wahân am £6.00 yr un

Nid yw pris yr eitemau yma yn cynnwys tal postio; danfonwch ebost neu ffoniwch Archifau Morgannwg i ofyn am bris llawn cyn archebu.

Prynu

Gallwch brynu’r llyfrau hyn drwy’r ffyrdd canlynol:

  1. Anfon eich archeb a siec i: Archifdy Morgannwg, Clos Parc Morgannwg Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW.
  2. Dod i Archifdy Morgannwg eich hun

Gellir talu yn y dulliau canlynol:

  • Siec, mewn punnoedd gan fanc Prydeinig, yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’
  • Archeb Bost, yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’
  • Taliad ar-lein, ceir manylion ar gais

Yn anffodus, ni allwn dderbyn sieciau gan fanciau nad ydyn nhw’n rhai Prydeinig.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd