Gwasanaeth Ymchwil ac Ymholiadau

Mae croeso i chi ymweld â ni os oes gennych ymholiad

Gallwch hefyd anfon unrhyw ymholiadau drwy e-bost i:  glamro@caerdydd.gov.uk

Neu gallwch gysylltu â ni drwy’r post:

Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg
Lecwydd
Caerdydd
CF11 8AW

Ni chodir tâl am ymholiadau cychwynnol.

Os oes gennych ymholiad penodol efallai yr hoffech ei wneud drwy’r Ffurflen Ymholi

Ffurflen ymholiad (Ffurf Word)

Ffurflen ymholiad (pdf)

Gwasanaeth Ymchwil

Os oes gennych ymholiad y bydd angen ymchwilio’n ddyfnach iddo, neu os hoffech i ni wneud gwaith ymchwil penodol ar eich rhan, rydyn ni’n cynnig gwasanaeth ymchwil.

Mae tâl lleiafswm o £45, £90 ar gyfer cwmnïau masnachol, am hyd at awr o waith ymchwil. Ein nod yw ymateb o fewn 15 diwrnod gwaith. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl gyflwyno cais ymchwil. I gael cymorth wrth lunio’ch cais, edrychwch ar ein nodiadau ar ysgrifennu ymholiad.

Yn ddelfrydol dylid gwneud cais ysgrifenedig am waith ymchwil, drwy gyfrwng ein Ffurflen gais am ymchwil.

Ffurflen gais am ymchwil (Ffurf Word)

Ffurflen gais am ymchwil (pdf)

Dylid anfon tâl gyda’r cais.

Gellir talu yn y dulliau canlynol:

  • Siec, mewn punnoedd gan fanc Prydeinig, yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’
  • Archeb Bost, yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’
  • Taliad ar-lein – ceir manylion ar gais

Yn anffodus, ni allwn dderbyn sieciau gan fanciau nad ydyn nhw’n rhai Prydeinig.

Postiwch eich cais am ymchwil a’ch taliad i Archifau Morgannwg yn y cyfeiriad uchod.

Mae Archifydd Morgannwg yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais am ymchwil.

 

Ymgynghoriadau Un-i-Un

Os na allwch ymweld ag Archifau Morgannwg yn bersonol, yna trefnwch ymgynghoriad un-i-un ar-lein ag un o’n staff.

Beth rydym yn ei wneud?

  • Ymgynghoriad ymchwil

Os ydych yn ymchwilio i bwnc penodol ac yn ansicr sut y gall yr Archifau helpu, rydym yn hapus i drafod eich ymchwil â chi ac argymell ffynonellau o’n casgliad a allai fod o ddefnydd.

  • Ymgynghoriad copïau

Wrth wneud cais am gopïau, gall fod yn anodd gwybod pa rannau o ddogfen yn union yr hoffech chi gael copïau ohonynt.  Gallwn ddangos y dogfennau i chi a’ch helpu i nodi’n union pa eitemau neu dudalennau yr hoffech i ni eu copïo ar eich rhan.

 

Beth nad ydym yn ei wneud?

  • Ymgynghoriad ymchwil
    • Ni allwn wneud gwaith ymchwil i ddogfennau ar eich rhan trwy’r ymgynghoriad rhithwir. Os hoffech i ni wneud ymchwil ar eich rhan, cysylltwch â ni trwy e-bost i gomisiynu ymchwil.
    • Ni allwn ddarllen yn uchel darnau o ddogfennau. Cysylltwch â ni trwy e-bost i gomisiynu ymchwil os hoffech i ni chwilio am y math hwn o fanylion ar eich rhan.
    • Er y gallwn roi cyngor ar ymchwil hanes teuluol, ni allwn esbonio wrthych sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein fel Ancestry a Find My Past.
    • Sylwer bod canllawiau manwl ar gyfer sut i chwilio ein catalog ar gael trwy’r catalog ar-lein, trwy ddewis ‘Sut i chwilio yn Canfod’ o’r ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
  • Ymgynghoriad copïau
    • Ni allwn ddangos tudalennau o ddogfennau i chi ddarllen trwyddynt, er y gallwn ni eich helpu i benderfynu pa dudalennau yr hoffech chi gael copïau ohonynt fel y gallwch eu darllen gartref.
    • Dim ond nifer gyfyngedig o ddogfennau y gallwn eu dangos oherwydd yr amser sydd ar gael a bydd staff yn hapus i roi cyngor ar hyn.
    • Rhaid archebu dogfennau ymlaen llaw ac ni ellir eu cynhyrchu yn ystod y sesiwn.

 

Sut mae’n gweithio?

  • Mae’r diwrnodau/amserau canlynol ar gael:
    • Dydd Mawrth 10.30am a 2.30pm
    • Dydd Iau 10.30am a 2.30pm
  • Cyflwynir sesiynau ar Microsoft Teams, Zoom neu Facetime ac maent wedi’u cyfyngu i 40 munud. Rhowch wybod i ni beth yw eich hoff lwyfan wrth archebu lle.
  • I archebu sesiwn, cysylltwch â ni trwy e-bost gyda nodyn ar yr hyn yr hoffech ei drafod ynghyd â’r dyddiad a’r amser sy’n well gennych. Bydd y staff yn cadarnhau ac yn trefnu’r cyfarfod.
  • Gydag ymgynghoriadau copiau, cyn eich sesiwn edrychwch ar gofnod y catalog ar gyfer yr eitemau fel eich bod yn gwybod faint i’w ddisgwyl a cael syniad o’r cynnwys.

Beth yw’r gost?

  • Cost ymgynghoriad un-i-un ag aelod o staff yw £45

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd