“Cynllun ar gyfer Glo” – Ailadeiladu a Buddsoddi

Ar ‘Ddiwrnod Datganiad’, 1 Ionawr 1947, gwladolwyd maes glo’r de a daeth yn rhan o’r Bwrdd Glo Cenedlaethol – Corfforaeth Glo Prydain yn ddiweddarach.

Detholiad o gyfrol cau glofa, 1948-1970 (DNCB/11/4/11)

Daeth gwladoli â buddsoddiad newydd yn ei sgil. Roedd mwy o fwyngloddio peirianyddol ar y ffas lo ac ymdrechion i wella iechyd a diogelwch. Fodd bynnag, roedd “Cynllun ar gyfer Glo” 1950 yr NCB yn rhybuddio o gostau uchel ail-adeiladu glofeydd de Cymru.

Taflen swfenîr, a argraffwyd adeg cau Glofa’r Maerdy, 1990 (DNCB/5/3/4)

Mae cofnodion yr NCB yng nghasgliad Archifau Morgannwg yn cofnodi manylion y cynlluniau i ail-drefnu, cyfuno glofeydd a chau pyllau. Mae ffeiliau yn cynnwys colledion ac elw a dadansoddiad o ba mor gynhyrchiol oedd glofeydd.

Glofa Fernhill, olwyn pen pwll segur, ffotograff Leslie Price (D1544/3/12)

Er y buddsoddi, crebachu fu hanes y diwydiant ac fe barhaodd y pyllau i gau. Yn 1994 caewyd Pwll Rhif 4 yng Nglofa’r Tŵr, y pwll dwfn olaf o eiddo Corfforaeth Glo Prydain ym maes glo’r de.

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd