Roedd Sefydliadau’r Glowyr a Neuaddau Lles yn ganolbwynt i fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol y cymunedau glo.
Ariannwyd y sefydliadau gan gyfraniadau ddaeth o gyflogau’r glowyr, yn aml gyda chefnogaeth y perchnogion glo a Chronfa Les y Glowyr.
Helpodd llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen y gweithwyr i’w haddysgu eu hunain. Ysgrifennodd F G Rees, Cyfarwyddwr Addysg Morgannwg, yn yr Ocean and National Magazine:
Busnes Sefydliadau Glofaol…yw hyfforddi meddyliau y rheiny sydd yn mynd iddynt a rhoi addysg ryddfrydoli iddynt yn ogystal â’u paratoi ar gyfer bywyd
Roedden nhw’n darparu ar gyfer gweithgareddau hamdden, gydag ystafelloedd biliards, neuaddau cyhoeddus a sinemâu.
Erbyn 1930 roedd dros 100 o sefydliadau ledled de Cymru. Fe ddaethant yn galon i’w cymunedau.