Gwaith y Lofa – Nid palu am lo yn unig

Nid oedd pob gweithiwr pwll yn gweithio ar y ffas lo.

Detholiad o lyfr talu yn dangos y gwahanol fathau o swyddi, Glofeydd Risca, Ion 1854-Ion 1856 (D1423/1/1)

Ar gyfartaledd roedd bron i hanner y gweithwyr glo ddim yn gweithio dan ddaear. Mae llyfrau talu o bryd i’w gilydd yn cofnodi gwaith y gweithwyr. Roedd swyddi yn cynnwys rippers, gwŷr ffyrdd, atgyweiriwyr ac ostleriaid.

Criw o grefftwyr ar yr wyneb, Glofa’r Mynydd Mawr, c.1906 (DNCB/14/1/45)

Ffotograffau yn dangos graddfa fawr gweithrediadau’r lofa ar yr wyneb. Roedd maint y gwaith yn golygu y cwblhawyd amrywiaeth o swyddi ar yr wyneb. Roedd swyddi yn cynnwys ffariers, bancwyr, cynorthwywyr meddygol, didolwyr glo, gweithwyr y lamprwm a chlercod.

Halwragedd ar yr wyneb, c1880 (DNCB/14/3/3)

Cyn Deddf Mwynfeydd 1842, cyflogwyd gwragedd a phlant mor ifanc â chwech oed dan ddaear. Byddai merched yn halio glo i waelod y pwll. Byddai plant yn gweithio hyd at 12 awr y dydd mewn rolau fel porthorion.

Detholiad o Adroddiad ar Gyflogi Menywod a Phlant yng Ngweithfeydd Haearn y de, 1866 (DG/C/5/15a)

 

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd