Roedd ceffylau yn chwarae rhan bwysig yn y glofeydd – erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd 70,000 yn gweithio dan ddaear mewn mwynfeydd yng ngwledydd Prydain

Llyfr pwrcasu ceffylau, [Glofeydd Fernhill], 1910-1952 (DNCB/8/4/7)

Roedd yn rhaid i geffylau fod o’r maint iawn i weithio dan ddaear Byddai ceffylau llai yn gweithio ar y tramwyfeydd a’r ceffylau mwy eu maint yn y rhannau mwy agored..

Merlen Lofa ar yr wyneb gydag ostler, 1955 (DNCB/14/4/149/19)

Roedd yn rhaid iddynt fod yn gorfforol gryf ar gyfer y gwaith trwm. Ond roedd angen iddynt gael y cymeriad iawn hefyd. Byddai ceffylau yn cael eu dychwelyd os oedden nhw’n beryglus dan ddaear.

Merlen Lofa tan ddaear, [1950au-1970au] (DNCB/14/4/159/10/13)

Roedd deddfwriaeth yn rheoli gwaith y merlod dan ddaear, gan nodi uchafswm oriau gwaith ac ymweliadau cyson gan filfeddyg.

Ceffyl yn Ysbyty Geffylau Tondu, c1955 (DNCB/14/3/43/11)

Roedd y nifer fawr o ferlod a oedd yn gweithio yn ne Cymru yn golygu fod gennym ein Hysbyty Ceffylau ein hunain yn Nhondu, ynghyd â fferyllfa a theatr lawdriniaeth.

 

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd