Y Casgliad

Chwilio’r Catalog

Mae ein catalog electronig yn cynnwys disgrifiadau o dros 250,000 o eitemau ac mae’n cael ei ddiweddaru’n gyson gyda disgrifiadau o gasgliadau newydd a dderbynnir a chatalogau newydd a grëir.

Gallwch chwilio am ddisgrifiadau o gasgliadau Archifau Morgannwg ac archifau eraill yng Nghymru ar wefan Archifau Cymru

Os dewch o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi, gallwn roi mwy o wybodaeth i chi ar gais

Chwilio’r Catalog

Mae ein Datganiad Hygyrchedd yn cael ei chyfieithu. Cysylltwch â ni i wneud cais am gopi.

Archif Ymchwil Hughesovka

Mae Archifau Morgannwg wedi casglu ynghyd lawer o gofnodion yn ymwneud â Hughesovska yn Archif Ymchwil Hughesovka.  Mae’n cynnwys deunyddiau am John Hughes a’i deulu, y gweithfeydd a’r dref, y teuluoedd o Brydain oedd yn byw yno, a mwy – gan gynnwys cannoedd o ffotograffau gwefreiddiol. Mae’r casgliad yn adlewyrchu llwyddiannau un o’r ymfudwyr Cymreig talentog a sefydlodd ac a ddatblygodd ddiwydiannau ym mhedwar ban byd.

Mae crynodeb o’r casgliadau  sy’n ymwneud â Hughesovka ar gael. Mae llawer o gasgliadau Hughesovka hefyd yn cael eu rhestru yn ein catalog

Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau Tywyll, Hen Wythiennau

Derbyniodd Archifau Morgannwg gyllid gan y Wellcome Trust i gatalogio eu cofnodion o’r diwydiant glo yn ne Cymru. Cefnogwyd ein harddangosfa ‘Glamorgan’s Blood’ gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Lansiwyd yr arddangosfa yn Hydref 2019 ac roedd ar gael i’w weld yn Archifau Morgannwg tan ddiwedd y flwyddyn.

Roedd disgwyl i’r arddangosfa teithio i leoliadau ar draws de Cymru yn ystod 2020. O ganlyniad i’r pandemig Covid-19 bu’n rhaid i ni ddod a’r daith i ben, dim ond ychydig fisoedd ar ôl dechrau.  Mae’r baneri nawr wedi eu cadw nes bod modd i ni ail-gychwyn ar y daith.

Yn y cyfamser, rydym wedi ychwanegu cynnwys yr arddangosfa i’n gwefan fel bod modd ei weld a’i fwynhau o adref.

Pen pwll â baner yr NCB, Glofa Nantgarw, 1952 (DNCB/14/4/87/70)

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd