Gyda salwch a damweiniau mor gyffredin yn y maes glo roedd angen triniaeth feddygol i fod ar gael. Yn aml ni allai’r rhai sâl neu a anafwyd fforddio talu.
Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf darparwyd gofal meddygol i’r dosbarth gweithiol drwy gyfrwng elusennau a Deddf y Tlodion.
Roedd cwmnïau glo hefyd yn cynnal cynlluniau meddygol a gyflogai feddygon i drin eu gweithwyr a’u teuluoedd. Talwyd am y cynlluniau meddygol hyn allan o gyflogau’r glowyr.
I wella’r ddarpariaeth feddygol, byddai glowyr hefyd yn cyfrannu at gynlluniau megis Ysbyty Ardal Glowyr Caerffili ac Ysbytai Aberpennar a Phenrhiwceiber.
Ym 1943, agorwyd Tŷ Talygarn fel gwasanaeth adferiad i lowyr a anafwyd. Erbyn 1964, roedd 3,000 o gleifion wedi eu trin, gydag un deg naw o bob ugain yn dychwelyd i weithio i’r diwydiant glo.