Busnes Peryglus: Trychinebau Glofaol

Gwelwyd sawl trychineb fawr ym maes glo’r de ac maent wedi eu cofnodi yn y casgliadau glo yn Archifau Morgannwg.

Collodd llawer o weithwyr – yn ddynion a bechgyn – eu bywydau mewn digwyddiadau megis boddi Glofa Tynewydd ym 1877 a Ffrwydriad Glofa’r Albion ym 1894.

Timau Achub a’r rhai a Achubwyd yn Nhynewydd, 1877 (DNCB/14/1/1)

Ar 14 Hydref 1913, lladdwyd 439 o lowyr mewn ffrwydrad yng Nglofa’r Universal yn Senghennydd. Dyma’r drychineb lofaol fwyaf yn hanes gwledydd Prydain.

Datganiad yn dangos manylion yr iawndal a dalwyd i’r rhai a laddwyd yn nhrychineb Senghennydd, 1915 (DPD/4/11/2/4)

Roedd yr effaith ar gymunedau yn anferth, weithiau byddai cannoedd o deuluoedd yn colli’r sawl ddeuai â chyflog i’r tŷ. Gyda’r lofa ar stop, byddai gofyn i’r rhai lwyddodd i oroesi chwilio gwaith mewn lleoedd eraill.

Grŵp o blant yn aros am newyddion, Senghennydd, Hyd 1913 (DSWP/PH/SEN/9)

Roedd iawndal ar gael trwy sianelau swyddogol a thanysgrifiadau elusennol, fel y gronfa hon a sefydlwyd ar gyfer teuluoedd y rhai a fu farw yn Senghennydd.

 

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd