Ym 1926 cyflwynwyd cronfa ar gyfer codi baddondy ar ben y pwll trwy Gronfa les y Glowyr.
Byddai’r baddonau yn galluogi’r glowyr i adael y gwaith yn lân ac i wella bywydau eu teuluoedd.
Cyn dyddiau’r baddondy yn y pwll byddai’r glowyr yn teithio adref yn frwnt gan lwch glo. Yn aml yn wlyb o chwys a dŵr o’r pwll, roeddent mewn perygl o ddal niwmonia, broncitis neu’r gwynegon.
Byddai’r gwragedd yn gweithio’n galed i lanhau’r llwch glo o’r cartref ac i baratoi bath i’r glowyr. Collodd cannoedd o blant eu bywydau am iddynt syrthio i ddŵr bath berwedig.
Mae cynlluniau’r baddonau pen pwll sydd wedi eu cadw yn Archifau Morgannwg yn dangos fel y bu i fywydau’r glowyr a’u teuluoedd wella, gan arddangos cyfleusterau fel cawodydd, ffreuturau a chanolfannau cymorth cyntaf.