Roedd ceffylau yn chwarae rhan bwysig yn y glofeydd – erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedd 70,000 yn gweithio dan ddaear mewn mwynfeydd yng ngwledydd Prydain
Roedd yn rhaid i geffylau fod o’r maint iawn i weithio dan ddaear Byddai ceffylau llai yn gweithio ar y tramwyfeydd a’r ceffylau mwy eu maint yn y rhannau mwy agored..
Roedd yn rhaid iddynt fod yn gorfforol gryf ar gyfer y gwaith trwm. Ond roedd angen iddynt gael y cymeriad iawn hefyd. Byddai ceffylau yn cael eu dychwelyd os oedden nhw’n beryglus dan ddaear.
Roedd deddfwriaeth yn rheoli gwaith y merlod dan ddaear, gan nodi uchafswm oriau gwaith ac ymweliadau cyson gan filfeddyg.
Roedd y nifer fawr o ferlod a oedd yn gweithio yn ne Cymru yn golygu fod gennym ein Hysbyty Ceffylau ein hunain yn Nhondu, ynghyd â fferyllfa a theatr lawdriniaeth.