Streic y Glowyr, 1984-1985

Yn wahanol i streiciau 1972 a 1974, a gynhaliwyd ar fater cyflog, testun streic 1984 oedd dyfodol y diwydiant – Dr Ben Curtis

Poster Glöwr Milwriaethus, o lun gan Leslie Price (D1544/5/10)

Ar 6 Mawrth 1984, cyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ei fwriad i dorri 4 miliwn o dunelli o lo oddi ar y capasiti a thorri 20,000 o swyddi o fewn blwyddyn. Aeth glowyr ledled y DU ar streic i achub y diwydiant a’u cymunedau.

Detholiad o lyfr cofnodion, Grŵp Cymorth Menywod De Cymru, 18 Gorff 1984 (DWSG/2/1)

Chwaraeodd menywod ran hanfodol yn cefnogi’r glowyr yn ystod y streic. Yng nghofnodion cyfarfod cyntaf Grŵp Cymorth Merched De Cymru, ysgrifennodd Kath Jones:

… roedd hi’n gyffrous gweld bod menywod yn trefnu eu hunain fel na wnaethant erioed o’r blaen mewn unrhyw anghydfod diwydiannol.

Aelodau Plaid Lafur Penarth yn casglu bwydydd i helpu glowyr de Cymru, 22 Mai 1984 (D1061/1/49)

Ond cael eu trechu fu hanes y glowyr. O fewn deg mis i adeg y streic, roedd naw o lofeydd de Cymru wedi eu cau.

Llythyr a yrrwyd at lowyr yng Nglofa’r Maerdy yn ystod y streic, 1985 (DNCB/12/1/18)

 

© Archifau Morgannwg 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd