Sefydliad y Glowyr: Rhoddodd y Llyfrgelloedd Inni Rym

Roedd Sefydliadau’r Glowyr a Neuaddau Lles yn ganolbwynt i fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol y cymunedau glo.

Ariannwyd y sefydliadau gan gyfraniadau ddaeth o gyflogau’r glowyr, yn aml gyda chefnogaeth y perchnogion glo a Chronfa Les y Glowyr.

Darn o lyfr talu ar gyfer Glofa’r International yn dangos cyfraniadau i’r llyfrgell, 1942 (D1400/2/1/1/26)

Helpodd llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen y gweithwyr i’w haddysgu eu hunain. Ysgrifennodd F G Rees, Cyfarwyddwr Addysg Morgannwg, yn yr Ocean and National Magazine:

Busnes Sefydliadau Glofaol…yw hyfforddi meddyliau y rheiny sydd yn mynd iddynt a rhoi addysg ryddfrydoli iddynt yn ogystal â’u paratoi ar gyfer bywyd

Llyfryn Swfenîr ar gyfer Seremoni Agoriadol Neuadd a Sefydliad Gweithwyr y Great Western, Pwllgwaun, Pontypridd (DNCB/15/17/1)

Roedden nhw’n darparu ar gyfer gweithgareddau hamdden, gydag ystafelloedd biliards, neuaddau cyhoeddus a sinemâu.

Llyfryn Swfenîr ar gyfer Seremoni Agoriadol Neuadd a Sefydliad Gweithwyr y Great Western, Pwllgwaun, Pontypridd (DNCB/15/17/1)

Erbyn 1930 roedd dros 100 o sefydliadau ledled de Cymru. Fe ddaethant yn galon i’w cymunedau.

 

© Archifau Morgannwg 2024 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd