Ganed Leeza Wiskin ym 1886 i George Albert ac Anna Kovalenko, ac roedd yn ddinesydd Hughesovka lle’i ganwyd a’i magwyd. Roedd ei thad wedi’i ddwyn i Rwsia gyda’i dad ef ym 1859 o Brydain ac, yn dilyn cyfarfyddiad â John Hughes, dechreuodd y ddau deulu gydblethu’n ddi-droi’n-ôl. Disgrifiodd Leeza ei phlentyndod gydag ymdeimlad o hiraeth dwfn gan gyfleu tristwch amlwg am y ffordd sydyn y cafodd ei gorfodi i adael. Ysgrifennodd gydag anwyldeb am y wlad a’i heithafion hinsawdd. O aeafau a oedd “yn chwerw oer” i’r pwynt bod “eira ar y ddaear, dwfn ac oer am fisoedd lawer” a byddai dŵr yn rhewi ar unwaith wrth ei daflu yn yr awyr.
Roedd yr hafau yn efelychu’r dwyster hwn, gan bara 3 mis ac yn dod â diwrnodau poeth hir llawn “heulwen lachar pan oedd yr ŷd melyn yn tyfu’n dal a’r blodau haul yn tyfu’n wyllt, a’r melonau yn aeddfedu”. Cofiodd ei theulu yn paratoi ar gyfer y math hwn o dywydd drwy lusgo blociau iâ enfawr i islawr eu tŷ ‘fel oergell hen ffasiwn’.
Gadawodd ei haddysg yn Hughesovka argraff sylweddol arni hefyd. Er ei bod hi’n ‘gallu siarad Rwsieg o’i phlentyndod’ roedd yn rhaid iddi ddysgu Saesneg ac yn ei dro aeth i’r ysgolion Rwsiaidd a Seisnig yn y dref. Er bod y cwricwlwm yn gymharol debyg, roedd y cosbau yn wahanol iawn rhwng y ddau, oherwydd yn yr ysgol Rwsiaidd: “byddai’r athro yn tynnu ein clustiau neu’n ein gorfodi i benlinio ar lawr anwastad caled yr ystafell ddosbarth.”




