John Hughes: O Ferthyr i Millwall

John Hughes: O Ferthyr i Millwall

John HughesDX627-1 John Hughes

Ganwyd John Hughes ym Merthyr Tudful tua 1815 pan oedd y dref yn ganolog i economi haearn Cymru. Dysgodd ei grefft yng Ngwaith Haearn Cyfarthfa, lle bu ei dad yn gweithio fel peiriannydd, yna symudodd i Lynebwy ac yn ddiweddarach i Gasnewydd, gan sefydlu a rheoli Gwaith Haearn Glannau Wysg ym Mhilgwenlli.

Uskside foundry interior	
Circa early 1900sDX721/1 Uskside foundry interior Circa early 1900s
Elizabeth LewisElizabeth Lewis

Yn 1844 priododd Elizabeth Lewis o Gasnewydd; cawsant wyth o blant: Sarah Ann, John James, William Caractacus, Arthur David, Margaret Elizabeth, Ivor Edward, Albert Llewellyn, ac Owen Tudor Thomas.

Erbyn y 1860au roedd Hughes yn aelod bwrdd y Millwall Engineering and Shipbuilding Company yn Llundain. Yma enillodd enw da am fod yn arloeswr ac yn ddyfeisiwr. Daeth ei gymysgedd o ddyfeisgarwch, hygrededd a sgiliau trefniadol ag ef i sylw swyddogion yn Rwsia Ymerodrol wrth iddynt bwyso a mesur sut i droi addewid daearegol yn ffaith ddiwydiannol. Roedd ganddo dymer a fyddai’n arwain at bethau mawr iddo yn y pen draw.

Millwall Iron Works Share CertificateMillwall Iron Works Share Certificate
John Hughes with family and Russian friends, Pre 1889

 

© Archifau Morgannwg 2026 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddDatganiad hygyrchedd