Mae bywgraffiadau y fam a’r ferch hon yn rhoi cipolwg unigryw ar sut beth oedd byw yn Hughesovka a’r cyffiniau 20 mlynedd ar wahân. Er bod plentyndod a bywyd oedolyn cynnar Mary Clark yn y dref yn disgrifio gwlad ffyniannus â digonedd gyda hafau poeth heddychlon llawn bwyd da a chwmni da, mae atgofion ei merch yn adrodd stori wahanol iawn.
Mary Clark née Penkova
Ganed Mary Penkova yn Hughesovka ym 1890 yn fab i Valerian Pen’kov (o Rwsia) a Sabina Lange (o’r Almaen). Bu farw Valerian o Deiffws yn 29 oed, gan adael Sabina gyda Mary a’i chwaer iau (a oedd ond yn 9 wythnos oed ar y pryd ac a fu farw yn ddiweddarach o barlys babanod yn 11 mis oed). Ar ôl marwolaethau ei gŵr a’i merch aeth Sabina â Mary, a symudon nhw i ystâd ei rhieni yn Hughesovka. Ar y dechrau, roedden nhw’n byw mewn hen dŷ ac yna symudodd i fyngalo brics mawr a adeiladwyd ar eu cyfer gyda “6 ystafell a chegin“.
Roedden nhw’n cadw gwartheg, moch a dofednod a disgrifiodd Mary fod “bywyd ar yr ystâd yn dda”. Mynychodd ychydig o ysgolion bach yn Hughesovka ond yn y pen draw aeth i ysgol breswyl yn Tula ar gyfer ysgol uwchradd cyn dychwelyd ym mis Mehefin 1909, ar ôl graddio. Ar ôl hyn treuliodd haf hir “yn gwneud bron i ddim byd o gwbl”. Roedd yr ystâd bob amser yn llawn ffrindiau a theulu, treuliodd ei dyddiau yn chwarae tennis a phêl-droed, yn bwyta pwdinau cartref ac yn teithio i lan y môr. Yn y pen draw, dechreuodd weithio mewn swyddfa i’r cwmni lle’r oedd hi’n cadw’r holl gyflog iddi hi ei hun gan nad oedd cost iddi fyw ar yr ystâd. Cawsant fis o wyliau gyda thâl llawn bob blwyddyn, pan fyddai hi a’i mam eto yn mynd i lan y môr i aros gyda ffrindiau ac ymlacio. Mae hi’n dweud yn ogystal â bod yn dda gartref fod bywyd yn dda “ym mhob man yn y de. Roedd y pridd yn gyfoethog a’r cynhaeaf yn doreithiog”.
Ym 1911 dechreuodd y dref gynnal dawnsfeydd unwaith y mis rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Yn ystod un o’r dawnsfeydd hyn cyfarfu â’i darpar ŵr William Clark, a anwyd yn Rwsia, ond a oedd â thad Prydeinig. Gwnaethon nhw briodi ar 7 Gorffennaf 1913. Flwyddyn yn ddiweddarach ar 11 Gorffennaf 1914 ganwyd eu merch Helen.
Fis ar ôl hynny ym mis Awst, cyhoeddwyd y rhyfel ac ymrestrodd William a gadael heb ymgynghori â Mary hyd yn oed.
Helen Wareing
Yn dilyn ymadawiad ei thad, cafodd plentyndod cynnar Helen Wareing née Clark ei dreulio yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hi’n disgrifio prinder bwyd enfawr, newyn a phobl yn cardota ar y stryd â “wynebau llwyd, yn ofnadwy o denau ac yn methu symud”. Yn 7 oed dechreuodd fynychu’r ysgol, ond ar ôl un tymor cyfeiriodd bachgen yn ei dosbarth at ei thad-cu Prydeinig fel “bourgeois”, gan arwain at ymladd. Roedd ofn arni y byddai wedi ei churo’n gleisiau i gyd heb ymyrraeth gwraig werin. Cafodd ei haddysgu gartref ar ôl hyn.
Roedd y byddinoedd coch a gwyn yn rhyfela’n gyson dros Hughesovka, ond y banditiaid (diffeithwyr y ddwy ochr) oedd y gwir berygl. Cafodd holl bethau gwerthfawr y teuluoedd eu claddu yn eu gardd gefn. Byddai banditiaid yn cerdded i mewn i’w tŷ gyda gynnau ac yn cymryd beth bynnag roedden nhw ei eisiau. Mae Helen yn cofio sut gwnaeth dyn dal eu morwyn a mynnu ei bod hi’n rhoi bwyd iddo, ond doedd ganddyn nhw ddim bwyd i’w roi. Ni allai ond edrych ag arswyd wrth i’w mam Mary erfyn ar y dyn i gymryd unrhyw beth ond i adael iddyn nhw fyw. Daeth teiffws yn ystod y gaeafau, parhaodd y teulu i newynu.
Ym 1921 daeth y rhyfel i ben o’r diwedd, ond daeth hyn â chyfres newydd o broblemau. Cafodd y teulu ei wneud yn ddigartref pan feddiannodd y llywodraeth eu tŷ i’w droi’n glwb. Roedd tai yn brin ond yn y pen draw symudon nhw i gyd i 1 ystafell fawr ar lawr gwaelod tŷ rhwng Hughesovka a Rutchnkovo (pentref sy’n faestref Donetsk fodern erbyn hyn). Buon nhw’n byw yma am flynyddoedd tan 1925 pan ddychwelodd William Clark o’r diwedd, ddegawd ar ôl iddo adael! Mae Helen yn ei gofio yn dod i’r cartref yn drwsiadus ac yn gwisgo het, rhedodd i mewn yn gweiddi “Mam, mam, mae dad wedi dod” ac yna cuddio o dan ei gwely mewn ofn y dyn rhyfedd hwn nad oedd hi’n ei adnabod.
Yn dilyn y rhyfel, daeth William o hyd i waith ym Manceinion fel peiriannydd. Anfonodd ei gwmni ef ledled Ewrop, a neidiodd ar y cyfle i fynd i Rwsia gan obeithio ei ailuno â’i deulu. Ar ôl i’w waith yn yr ardal gael ei gwblhau, anfonodd ei gwmni ef i rywle newydd a symudodd Mary a Helen gydag ef am y blynyddoedd nesaf. Gwnaethon nhw fyw yn Kyrgyzstan, St Petersburg (a alwyd yn Leningrad bryd hynny), Azerbaijan, Ivanovo ac yna yn ôl i Hughesovka ar gyfer blwyddyn olaf addysg Helen. Pan raddiodd symudodd ei rhieni a’u plentyn newydd i Loegr, ond ni fyddai ei haddysg yn Rwsia yn dda i ddim iddi yno ac nid oedd hi’n siarad unrhyw Saesneg. Felly, yn 17 oed ar 1 Awst 1931, symudodd i Moscow i ddysgu Saesneg a gweithio mewn swyddfa a oedd yn trin arian a nwyddau tramor.
Roedd Moscow ar yr adeg hon yn beryglus. Roedd treftadaeth Brydeinig a phasbort Prydeinig Helen yn golygu ei bod yn cael ei hystyried yn estron ac am y 2 flynedd buodd hi’n byw yno ni siaradodd ag unrhyw un heblaw ei pherthnasau (y bu’n byw gyda nhw) a’r bobl yn ei swyddfa.
Ym mis Mawrth 1933 roedd hi i ffwrdd o’r gwaith am ychydig ddyddiau gydag annwyd. Pan ddychwelodd, darganfu fod yr holl weithwyr Prydeinig yn ei swyddfa a llawer o’r Rwsiaid wedi diflannu. Gan ofni am ei diogelwch, dywedodd ei chydweithwyr a oedd yn dal i weithio wrthi am bacio bag a chafodd ei thywys i dŷ yn y wlad lle arhosodd am ychydig ddyddiau gyda gweithwyr eraill o Brydain. Pan lwyddodd hi i ddychwelyd adref o’r diwedd, dechreuodd ei pherthnasau grio o’i gweld hi. Daeth i’r amlwg bod y bobl a oedd wedi diflannu wedi eu harestio gan y KGB (a alwyd yn OGPU ar y pryd) ac wedi eu cyhuddo o “weithgareddau ysbïo, difrodi a dinistrio”. Pan nad oedd hi wedi dychwelyd adref o’r gwaith, roedden nhw’n meddwl ei bod hi wedi ei chymryd hefyd.
O’r diwedd, ym mis Gorffennaf 1933, bu’n rhaid i beiriannydd ymgynghorol iau yn ei swyddfa ddychwelyd i Brydain i adrodd yn ôl i’w gwmni a chael cyfarwyddiadau pellach ac aeth â hi gydag ef. Roedd hi wrth ei bodd i gael ei haduno â’i rhieni ond yn dorcalonnus ei bod wedi gorfod gadael Rwsia. Mae hi’n gorffen ei hatgofion gyda hyn:
‘Cymerodd flynyddoedd i mi ddod i arfer â byw yn Lloegr ac â’r diffyg cynhesrwydd mewn perthnasau personol. Dim ond pan ddes i i fyw yng Nghymru y teimlais y cynhesrwydd hwn eto’.






