Lleisiau Menywod: Leah Steel

DX664/1/5 - Memories of Leah Steel

Gadawodd Leah Steel (née Edwards), a anwyd yn Hughesovka ym 1876, gofiannau helaeth. Yn ferch i bwdler o Flaenafon ac un o’r olaf o’r gymuned Brydeinig i adael y dref ym 1917, mae ei hatgofion o Rwsia yn paentio darlun byw o fywyd yn ystod cyfnod cymhleth mewn hanes. Mae ei hanesion o wyliau crefyddol yn disgrifio dyddiau gŵyl Uniongred – adeg yr Ystwyll “byddant yn mynd i’r afon a cherfio Allor o iâ… Ar ôl iddo fendithio’r dŵr, byddai’r bobl yn llenwi bwcedi, tegelli a photeli, ac yn cadw’r dŵr sanctaidd hwn drwy’r flwyddyn. Pan oedd unrhyw un yn y teulu yn sâl, roedd ganddynt y ffydd mwyaf y byddai’r Dŵr Sanctaidd hwn yn gwneud daioni iddyn nhw”. Sut yn ystod y Grawys y byddai’r bobl leol yn ymprydio ac ni fyddent yn bwyta cig, menyn nac wyau, gyda’r strydoedd yn ystod y cyfnod hwn yn “dawel iawn, heb unrhyw bleserau o unrhyw fath”.

Ym 1892 dychwelodd o ddysgu ysgol Sul i anhrefn Terfysgoedd Colera: “Aeth y ‘Certi Colera’ trwy’r strydoedd yn casglu’r meirw… aeth pobl yn wyllt.” Fe wnaeth trên arbennig gludo teuluoedd tramor saith verst (1 verst = 1.1km) i’r orsaf agosaf, yna deunaw arall i gyffordd, dim ond i ddysgu bod colera wedi cyrraedd y barics yno. Wrth ddychwelyd yn ddiweddarach, canfu dref “fel mynwent… gydag afonydd mwg o weddillion yr adeiladau’n llosgi.”

DXGC232/25 - Open-air church service

 

Treuliodd ychydig o amser ym Moscow ac ar un adeg arhosodd un awr ar ddeg i weld Tsar Nicholas II, Tsar olaf Rwsia. Dihangodd o drwch blewyn rhag Trasiedi Maes Khodynka ym 1896 a dim ond ym 1917 y gwnaeth ffoi yn ôl i Brydain o Rwsia oherwydd dirmyg ei gŵr tuag at y chwyldro. Ar ôl iddynt gyrraedd yn ôl i Brydain, aeth y cwpl ar drên i Lundain ac ar gyrraedd St. Pancras cawsant eu dal yng nghyrch awyr cyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf ar 7 Gorffennaf 1917! Yn y pen draw, ymgartrefodd eu teulu yn Bedford.

D381/4/55 - Panormama of houses in Hughesovka

 

 

© Archifau Morgannwg 2026 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddDatganiad hygyrchedd