Lleisiau Menywod: Cyflwyniad

Er mai dewisiadau a gweithredoedd dynion arloesodd dwf economaidd Hughesovka, cafodd y gymuned a dyfodd o amgylch gwaith dur Hughes ei meithrin gan deuluoedd y gweithwyr a gyflogai. Gwnaeth menywod Hughesovka, a ddilynodd eu gwŷr neu eu tadau i wlad estron, feithrin teuluoedd a chartrefi ar dir nad oedd wedi ei gyffwrdd gan wareiddiad modern o’r blaen.

 

Ganwyd cenhedlaeth o fenywod yn y Donbass hefyd. Prydeinwyr yn eu gwaed ond wedi’u geni a’u magu yn Hughesovka, yn siarad ei hiaith, yn mynychu ei hysgolion, yn delio â’i gwleidyddiaeth a’i thywydd a rhyfel.

 

Mae lleisiau menywod Hughesovka yn rhoi mewnwelediad penodol i brofiadau byw y gymuned alltud hon. Mae’r bywgraffiadau a adawyd ganddynt yn adrodd stori lawer agosach at gartref nag y gallai unrhyw gontract neu ddogfen llys erioed, gan bortreadu eu safbwyntiau unigryw mewn amser a lle sydd bellach yn teimlo mor bell oddi wrth ein realiti.

 

© Archifau Morgannwg 2026 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi PreifatrwyddDatganiad hygyrchedd