Daeth rhyfel a chwyldro i ben fuddiannau Prydain yn Hughesovka. Ym mis Awst 1914, ysgrifennodd Elizabeth Perry at ei chwaer fod “y rhyfel wedi dechrau mor sydyn nad oedd neb yn gwybod dim amdano”. Erbyn mis Tachwedd, roedd dynion ifanc o’r gymuned wedi gadael i ymrestru. Wrth i 1917 agosáu, dwysáu a wnaeth y trais gwleidyddol. Cynghorwyd teuluoedd yn Hughesovka i adael yn gyflym. Wynebodd y wlad chwalu’r llywodraeth a chyfraith a threfn, gan adael teuluoedd heb ddewis ond ffoi.
Gadawodd llawer ym mis Awst 1917 a threulio wythnosau hir yn brwydro ar draws Ewrop a oedd wedi’i rhwygo gan ryfel. Y tu allan i amser y rhyfel, byddai teithwyr, yn gyffredinol, yn defnyddio’r llwybr môr deheuol trwy Fôr y Canoldir a’r Môr Du, neu ar drên trwy Holand, yr Almaen a Gwlad Pwyl. Fodd bynnag, gyda’r cyfandir cyfan yn rhyfela, gorfodwyd pobl i deithio trwy Petrograd, a oedd ar ganol y chwyldro Bolsiefic ar y pryd.
Y Cartwrights oedd rhai o’r nifer a orfodwyd i adael popeth a gwneud y daith beryglus. Roedd y teulu yn cynnwys Percy Cartwright, ei wraig Gwladys Ann o Dowlais a’u 2 o blant, Ella ac Edward. Ganwyd eu mab ieuengaf Edward ychydig wythnosau cyn iddynt gael eu gorfodi i adael. Gwnaethon nhw adael ddiwedd mis Awst a chyrraedd y brifddinas yn ystod ail wythnos mis Medi. Roedden nhw’n lwcus i fod yno dim ond ychydig ddyddiau, oherwydd roedd conswl Prydeinig wedi trefnu iddynt deithio dros y ffin i’r Ffindir ar y 12fed. Gwnaethon nhw adael ar unwaith a dau ddiwrnod yn ddiweddarach, ar y 14eg, croesi’r ffin i Sweden cyn symud i Norwy. Gwnaethon nhw aros mewn gwesty yn Vossvangen o dan warchodaeth y Llynges Frenhinol wrth iddynt aros am gwch a fyddai’n mynd â nhw wedyn ar gymal olaf eu taith i Aberdeen. Cyrhaeddon nhw Brydain ar 7 Hydref, dros fis ar ôl gadael yn gyntaf.
Ar ôl dychwelyd i Dde Cymru ni wnaethant allu gweld y Donbass byth eto. Chwe blynedd ar ôl hyn daeth Hughesovka yn Stalino a daeth y cartref yr oeddent wedi’i adnabod i ben.







