Rhyfel Byd Cyntaf

Fel rhan o’n gwaith i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, lluniodd ein gwirfoddolwyr fynegeion i nifer o gyfresi o gofnodion o’r cyfnod hwn. Nod y project hwn oedd gwella hygyrchedd y cofnodion hyn, a sicrhau y gellir eu chwilio’n rhwydd gan aelodau’r cyhoedd sy’n ceisio coffau’r rhyfel eu hunain, neu’n chwilio am wybodaeth am effaith y rhyfel ar eu teuluoedd, eu trefi neu ar eu cymdogaeth.

Mae’r adnoddau y mae ein gwirfoddolwyr wedi eu creu ar gael i lawr lwytho o’r dudalen hon.

Restr Anrhydedd Corfforaeth Dinas Caerdydd a Brwydr Coedwig Mametz 7-12 Gorffennaf 1916

I gofio canmlwyddiant Brwydr Coedwig Mametz, ymchwiliodd Rosemary Nicholson i’r gwŷr y cofnodwyd eu bod wedi gwasanaethu yn Mametz ar Restr Anrhydedd Corfforaeth Dinas Caerdydd, a gedwir yn Archifau Morgannwg.

Mae’r rhestr anrhydedd yn cofnodi enw, cyfeiriad, oedran a rheng y milwyr hyn, ac yn rhoi man cychwyn i’r ymchwil sy’n ymddangos yn ei llyfryn. Mae gan rai o’r enwau hanes cudd, diddorol, tra bod eraill heb ddatgelu dim.

Dyma’r cyntaf o ddwy ddogfen a luniwyd gan Rosemary.

 

16eg Bataliwn (Dinas Caerdydd) y Gatrawd Gymreig, Rhestr Anrhydedd, Coedwig Mametz 7-12 Gorffennaf 1916

Dyma’r ail o ddwy ddogfen a luniwyd gan Rosemary Nicholson sy’n ymchwilio i Goedwig Mametz.

Mae’r ddogfen yma yn coffau aelodau o 16eg Bataliwn (Dinas Caerdydd) y Gatrawd Gymreig a gollodd eu bywydau yng Nghoed Mametz.

Cyflwynwyd y papurau ymchwil ar Restr Anrhydedd Corfforaeth Dinas Caerdydd i Archifau Morgannwg gan yr awdur, Rosemary Nicholson, ac maent yn ymddangos ar ein gwefan trwy ei charedigrwydd hi.

 

Gweithwyr Dinas Caerdydd

I goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf mae Rosemary Nicholson wedi ymchwilio i gefndir y bobol a enwyd ar Restr Anrhydedd Gweithwyr Corfforaeth Caerdydd a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd a’r ffurflenni cais am gynnwys ar y rhestr sy’n amgaeedig a llythyron gan deulu.

Trefnwyd yr ymchwil yn ôl yr adran o’r Gorfforaeth lle bu’r gweithiwr unigol yn gweithio ar adeg ymrestru.

Rhôl Anrhydedd Cartrefi Bwthyn Aberdâr

I goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, ymchwiliodd Rosemary Nicholson i’r dynion y mae eu henwau’n ymddangos ar Rôl Anrhydedd Cartrefi Bwthyn Aberdâr a chadwyd yn Archifau Morgannwg. Mae cyfanswm o 83 o enwau ar y rhôl, rhai gyda mwy o wybodaeth nag eraill, ac mae’n ymddangos eu bod i gyd wedi mynychu’r Ysgol Ddiwydiannol yn Nhrecynon, Aberdâr.

Mae testun llawn yr ymchwil i’r Rôl Anrhydedd ar gael yma. Er bod Rosemary wedi dod o hyd i gymaint o wybodaeth ag oedd yn bosibl ar y pryd, mae’r ymchwil ymhell o fod yn gyflawn. Os oes unrhyw un yn adnabod hynafiad posib ymhlith yr enwau ar y Rôl Anrhydedd ac yn gallu llenwi unrhyw fanylion coll, cysylltwch ag Archifau Morgannwg gan y byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cyflwynwyd y papur ymchwil ar Rôl Anrhydedd Cartrefi Bwthyn Aberdâr i Archifau Morgannwg gan yr awdur, Rosemary Nicholson, ac mae’n ymddangos ar ein gwefan gyda’i chaniatâd caredig.

Dyddiadur Rhyfel Capten Mervyn Crawshay

Ganed Mervyn Crawshay ar 5ed Mai 1881 yn Dimlands, Llanilltud Fawr, yn fab i Tudor Crawshay, Uwch Siryf Morgannwg, ac yn ŵyr i’r meistr haearn William Crawshay o Ferthyr Tudful. Dewisodd Mervyn ddilyn gyrfa yn y fyddin ac ymunodd â Chatrawd Caerwrangon ym 1902. Gwasanaethodd am ddwy flynedd yn rhyfel De Affrica gan symud ym 1908 i 5ed Gwarchodlu’r Marchfilwyr (Tywysoges Charlotte o Gymru). Cafodd ei ddyrchafu’n gapten ym mis Ebrill 1911. Roedd Crawshay yn farchog o fri a chynrychiolodd Loegr mewn twrnameintiau milwrol yn America ym 1913, gan ennill y Cwpan Aur yn y gystadleuaeth ryngwladol.

Roedd Mervyn Crawshay yn aelod o Fyddin Ymdeithiol Prydain, a oedd yn gymharol fach, a anfonwyd i helpu’r Ffrancwyr i amddiffyn Gwlad Belg yn wyneb ymosodiad yr Almaen. Mae cofnodion agoriadol ei ddyddiadur, ar 15 ac 16 Awst, yn sôn am adael Southampton a chyrraedd Le Havre. Mae’r dyddiadur yn gorffen yn sydyn, yng nghanol frawddeg, ar 29 Hydref 1914. Gallwch ddarllen yr holl gofnodion yma.

Ysgol Uwchradd Dinas Caerdydd, Gerddi Howard, Caerdydd

Cyn-ddisgyblion a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Lleolwyd Ysgol Uwchradd Dinas Caerdydd, a adnabyddwyd yn hwyrach fel Ysgol Uchwradd i Fechgyn Gerddi Howard, yng Ngerddi Howard, Adamsdown, Caerdydd.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, cysylltodd William Dyche, Prifathro Ysgol Uwchradd Dinas Caerdydd, a’i gyn-ddisgyblion yn gofyn iddynt gadw mewn cysylltiad fel y gallai gasglu manylion eu cyfraniad at yr ymgyrch ryfel. Ymatebodd nifer o’r hen fechgyn, gan ysgrifennu at William Dyche trwy gydol y rhyfel. Cadwodd William Dyche y llythyrau yma, ac maent erbyn hyn yn ffurfio rhan o gofnodion yr Ysgol yn Archifau Morgannwg. Maent yn cynnig golwg ar brofiadau rhyfel gwŷr ifainc o Gaerdydd.

Mae ein gwirfoddolwr Rosemary Nicholson wedi ymgymryd ag ymchwil ar yr hen fechgyn a ysgrifennodd at William Dyche, gan olrhain eu gwasanaeth milwrol ac, i’r rhai a goroesodd, eu bywydau wedi’r Rhyfel.  Mae Rosemary wedi cyflwyno yn garedig copi o’i ymchwil i’r Archifau, ac wedi rhoi caniatâd i ni ei rannu ar ein gwefan.

Mae’r ddogfen gyntaf yn olrhain yr hen fechgyn a ysgrifennodd at William Dyche yn ystod y cyfnod 1914-1919 ac sydd â llythyrau’n goroesi yn yr Archifau dan y cyfeirnodau EHGSEC/11/6, 7, 53 a 55.

EHGSEC-11 Combined Letters – Word 

EHGSEC-11 Combined Letters – PDF

Mae’r ail ddogfen olrhain yr hen fechgyn a chomisiwn a restrwyd yn y Rhestr Arfaethedig o Hen Feistri a Bechgyn yn gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog yn y Rhyfel Mawr, 1916 (cyf. EHGSEC/11/8).

EHGSEC-11-8 Old Boys – Commissions – Word

EHGSEC-11-8 Old Boys – Commissions – PDF

Ac mae’r trydydd yn olrhain yr hen fechgyn heb gomisiwn o’r un ddogfen.

EHGSEC-11-8 Old Boys Non Commissions – Word

EHGSEC-11-8 Old Boys Non Commissions – PDF

© Archifau Morgannwg - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd