Dyddiadur Rhyfel Capten Mervyn Crawshay
Ganed Mervyn Crawshay ar 5ed Mai 1881 yn Dimlands, Llanilltud Fawr, yn fab i Tudor Crawshay, Uwch Siryf Morgannwg, ac yn ŵyr i’r meistr haearn William Crawshay o Ferthyr Tudful. Dewisodd Mervyn ddilyn gyrfa yn y fyddin ac ymunodd â Chatrawd Caerwrangon ym 1902. Gwasanaethodd am ddwy flynedd yn rhyfel De Affrica gan symud ym 1908 i 5ed Gwarchodlu’r Marchfilwyr (Tywysoges Charlotte o Gymru). Cafodd ei ddyrchafu’n gapten ym mis Ebrill 1911. Roedd Crawshay yn farchog o fri a chynrychiolodd Loegr mewn twrnameintiau milwrol yn America ym 1913, gan ennill y Cwpan Aur yn y gystadleuaeth ryngwladol.
Roedd Mervyn Crawshay yn aelod o Fyddin Ymdeithiol Prydain, a oedd yn gymharol fach, a anfonwyd i helpu’r Ffrancwyr i amddiffyn Gwlad Belg yn wyneb ymosodiad yr Almaen. Mae cofnodion agoriadol ei ddyddiadur, ar 15 ac 16 Awst, yn sôn am adael Southampton a chyrraedd Le Havre. Mae’r dyddiadur yn gorffen yn sydyn, yng nghanol frawddeg, ar 29 Hydref 1914. Gallwch ddarllen yr holl gofnodion yma.