Medi 2026
Drysau Agored yn Archifau Morgannwg
12/09/2026
10:00 am-3:30 pm
Archifau Morgannwg, Caerdydd
Dewch draw i ddarganfod beth mae archifdy yn ei wneud, a sut mae’n gweithio!
Bydd cyfle i gwrdd ag aelodau o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg bydd ar gael i ateb eich cwestiynau hanes teulu.
Bydd teithiau tu ôl i’r llen yn dechrau am 10yh, 11.30yh, 12.30yh a 2yh. Rhaid archebu lle. Cysylltwch â ni i archebu eich lle AM DDIM! –
E-bost: glamro@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 2299
Bydd Cymdeithas Hanes Teulu Morgannwg yn cyflwyno dwy sgwrs byr AM DDIM. Does dim angen cadw lle ar gyfer y sgyrsiau, felly galwch mewn!
11yb – Researching Your Irish Family History
1.30yp – Online Resources for Welsh & English Family History: Beyond Ancestry & Find My Past
Archwiliwch ddogfennau sy’n cofnodi cannoedd o flynyddoedd o hanes Morgannwg. A dysgwch fwy am y gwaith hynod ddiddorol sy’n digwydd yn ein stiwdio gadwraeth gydag arddangosiadau gan y tîm.
Bydd staff wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad ar sut i ddechrau a pharhau â’ch ymchwil, boed yn hanes lleol, hanes tŷ, hanes teuluol, prosiect ysgol neu brifysgol, neu unrhyw beth arall!
Deterrent, Revenge or Justice? The Execution of Leslie James, The Last Woman Hanged in Wales
16/09/2026
2:00 pm-3:00 pm
Archifau Morgannwg, Leckwith, Cardiff.
Ymunwch a’r awduron John Wake a Mary Jones wrth iddynt drafod eu llyfr newydd a’r ymchwil wrth gefn iddo, gan ddatgelu honiadau o ‘ffermio babanod’ yn erbyn Leslie James, arweiniodd at ei chrogi yng Nghaerdydd ar fore 14 Awst 1907.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Cadwch le AM DDIM yma https://www.ticketsource.com/glamorgan-archives/t-kdpygzz

