
2:00 pm | 25/11/2026
Ymunwch a Dr Bethan Scorey wrth iddi drafod nawddogaeth fenywaidd yng Nghastell Sain Ffagan, un o’r themâu o’i llyfr newydd gyhoeddedig, ‘St Fagan’s Castle: The Architectural and Social History of a Welsh Country House’.
Mae Dr Bethan Scorey yn hanesydd pensaernïol a darlunydd o Gaerdydd. Mae ei gwaith yn cynnwys ymchwilio, ysgrifennu, darlledu a darlunio, gan ganolbwyntio ar adeiladau a gerddi hanesyddol Cymru.
Bydd y digwyddiad yma yn cael ei chynnal mewn person yn Archifau Morgannwg.
Cadwch le AM DDIM yma https://www.ticketsource.com/glamorgan-archives/t-oezeeax
Location
Loading Map....
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW

