Rhestr Anrhydedd Corfforaeth Dinas Caerdydd a Brwydr Coedwig Mametz 7-12 Gorffennaf 1916
I gofio canmlwyddiant Brwydr Coedwig Mametz, ymchwiliodd Rosemary Nicholson i’r gwŷr y cofnodwyd eu bod wedi gwasanaethu yn Mametz ar Rhestr Anrhydedd Corfforaeth Dinas Caerdydd, a gedwir yn Archifau Morgannwg.
Mae’r rhestr anrhydedd yn cofnodi enw, cyfeiriad, oedran a rheng y milwyr hyn, ac yn rhoi man cychwyn i’r ymchwil sy’n ymddangos yn ei llyfryn. Mae gan rai o’r enwau hanes cudd, diddorol, tra bod eraill heb ddatgelu dim.
Dyma’r cyntaf o ddwy ddogfen a luniwyd gan Rosemary.
16eg Bataliwn (Dinas Caerdydd) y Gatrawd Gymreig, Rhestr Anrhydedd, Coedwig Mametz 7-12 Gorffennaf 1916
Dyma’r ail o ddwy ddogfen a luniwyd gan Rosemary Nicholson sy’n ymchwilio i Goedwig Mametz.
Mae’r ddogfen yma yn coffau aelodau o 16eg Bataliwn (Dinas Caerdydd) y Gatrawd Gymreig a gollodd eu bywydau yng Nghoed Mametz.
Cyflwynwyd y papurau ymchwil ar Restr Anrhydedd Corfforaeth Dinas Caerdydd i Archifau Morgannwg gan yr awdur, Rosemary Nicholson, ac maent yn ymddangos ar ein gwefan trwy ei charedigrwydd hi.
Gweithwyr Dinas Caerdydd
I goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf mae Rosemary Nicholson wedi ymchwilio i gefndir y bobol a enwyd ar Restr Anrhydedd Gweithwyr Corfforaeth Caerdydd a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ynghyd a’r ffurflenni cais am gynnwys ar y rhestr sy’n amgaeedig a llythyron gan deulu.
Trefnwyd yr ymchwil yn ôl yr adran o’r Gorfforaeth lle bu’r gweithiwr unigol yn gweithio ar adeg ymrestru.