2:00 pm-3:00 pm | 01/11/2017
Susan Edwards, Archifau Morgannwg
Sefydlodd John Hughes, y diwydiannwr o Ferthyr Tudful, waith haearn yn Wcráin, ar wahoddiad Lywodraeth Ymerodrol Rwsia. Ymunwch a Susan Edwards, Archifydd Morgannwg, wrth iddi adrodd hanes John Hughes, ei Gwmni Rwsia Newydd a’r dref a’r gymuned a dyfodd o gwmpas y gwaith haearn.
Wedi’r sgwrs bydd cyfle i weld eitemau perthnasol o Archif Ymchwil Hughesovka
Dyddiad: Dydd Mercher 1 Tachwedd 2017
Amser: 2yh
Lleoliad: Archifau Morgannwg
Mae’r digwyddiad yma AM DDIM ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly cysylltwch ag Archifau Morgannwg er mwyn cadw lle.
Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AW
Ffôn: 029 2087 2299 Ebost: glamro@cardiff.gov.uk www.archifaumorgannwg.gov.uk
Location
Archifau Morgannwg
Clos Parc Morgannwg,
Leckwith,
CF11 8AW